Arwain ac ysgogi newid ar sail y Safonau Iaith


Dyddiad: 10 February - 10 February
Lleoliad: Glasdir, Llanrwst
Hyfforddwr: Clare Grist
Tâl: £155 + TAW / £125 + TAW i aelodau IAITH
Amser: 9:30 am - 16:00 pm

Nod

Nod yr hyfforddiant yw cyflwyno gwybodaeth a dulliau i gefnogi rheolwyr ac arbenigwyr  i baratoi a gweithredu’n strategol ac yn ymarferol ar gyfer y safonau iaith.

 

Mae’r cwrs yma yn addas ar gyfer:

Rheolwyr ac arbenigwyr strategol /gweithredol sydd â chyfrifoldeb am gyflwyno neu weithredu'r safonau iaith o fewn asiantaeth.

(Bydd yr hyfforddiant yma yn cael ei gyflwyno yn ddwyieithog.)

 

Cynnwys:

Mae’r gweithdy hwn yn cwmpasu:

  •             Model cyfannol o gynyddu defnydd iaith
  •              Arwain y broses – dadansoddiad gap / cynllun gweithredu / ymgysylltiad / ymwybyddiaeth
  •              Rheoli newid / sgiliau arweinyddiaeth /deallusrwydd emosiynol

 

Hwylusydd:

Mae Clare Grist wedi gweithio gydag IAITH fel ymgynghorydd dros y 11 mlynedd diwethaf. Mae ganddi gefndir yn y maes addysg a hyfforddiant drwy ei gyrfa flaenorol gyda llywodraethau lleol a’i gwaith annibynnol ym meysydd ymwybyddiaeth iaith, rheolaeth ac arweinyddiaeth. Yn ogystal â’i gwaith annibynnol erbyn hyn mae hefyd yn gweithio fel Uwch Swyddog Dwyieithrwydd o fewn asiantaeth Cymru gyfan.

Rhaglen