Blas ar Fentora – deall arfer da wrth fentora yn y gweithle


Dyddiad: 10 February - 10 February
Lleoliad: Llandarcy
Hyfforddwr: Clare Grist
Tâl: £175 + TAW £145 + TAW i aelodau IAITH
Amser: 9:30 am - 16:30 pm

Datblygwyd y cwrs yn sgil cyhoeddi datganiad polisi Iaith fyw: iaith byw – Bwrw mlaen sy'n cyfeirio at ddatblygu gwaith y Mentrau Iaith trwy fentora gan arweinwyr effeithiol. 

Nod: Galluogi dysgwyr i ddeall egwyddorion arfer da wrth fentora yn y gweithle. 

Amcanion: Erbyn diwedd y cwrs bydd dysgwyr wedi derbyn cyflwyniad i'r: 

Cyd-destun ar gyfer mentora effeithiol yn y gweithle: 

  • pwrpas mentora yn y gweithle 
  • rôl a chyfrifoldebau'r mentor effeithiol 
  • y wybodaeth, sgiliau ac ymddygiad sydd eu hangen ar ran y mentor effeithiol 
  • yr hyn ddylid ei gynnwys mewn cytundeb mentora yn y gweithle er mwyn sicrhau perthynas fentora safonol ac ethegol 

Y broses ar gyfer mentora effeithiol yn y gweithle: 

  • sut i ddefnyddio model mentora i reoli perthynas fentora yn y gweithle 
  • dulliau a thechnegau i gefnogi mentora effeithiol yn y gweithle 
  • pam ei bod yn bwysig cadw cofnod sylfaenol am fentora yn y gweithle a beth ddylid ei gynnwys ynddo 
  • rhwystrau posib wrth fentora yn y gweithle a strategaethau addas ar gyfer delio â nhw 

Rhaglen