Caffael a’r Gymraeg – cytundebau a grantiau


Dyddiad: 25 January - 25 January
Lleoliad: Venue Cymru, Llandudno
Hyfforddwr: Dr Steve Eaves
Tâl: £85 + TAW / £70 + TAW aelodau IAITH
Amser: 9:00 am - 13:00 pm

Cyflwyniad

Ddiwedd Medi 2015 gosododd Comisiynydd y Gymraeg Safonau Iaith Gymraeg ar 26 o sefydliadau yn nodi beth fydd disgwyl iddynt ei wneud a’i ddarparu yn Gymraeg yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.  Gosodir Safonau ar amryw o gyrff eraill yn ystod 2016 a 2017.

Mae maes caffael yn faes allweddol bwysig i alluogi pob corff i ymateb yn effeithiol i her y Safonau, a rhaid sicrhau gweithdrefnau effeithiol priodol ar gyfer gosod cytundebau a dyrannu grantiau.

Nod

Nod yr hyfforddiant hwn yw esbonio prif oblygiadau’r Safonau parthed cytundebau a grantiau, a rhannu gwybodaeth am arfer da yn y maes.

Ar gyfer pwy?

Anelir yr hyfforddiant hwn at swyddogion mewn cyrff cyhoeddus a chyrff trydydd sector sy’n ymwneud â rheoli, gosod a monitro cytundebau a dyfarniadau grant. 

Cynnwys

Bydd hyfforddeion yn:

  • Archwilio gofynion y Safonau perthnasol sy’n ymdrin â chytundebau a grantiau
  • Ystyried pa drefniadau cytundebol y mae angen gosod yn eu lle i ymateb yn briodol i’r gofynion
  • Ystyried y trefniadau y mae angen gosod yn eu lle ar gyfer monitro gweithrediad cytundebau a grantiau
  • Ystyried pa elfennau o weinyddiad cytundebau a grantiau y mae angen eu cofnodi er mwyn cydymffurfio â’r Safonau Cofnodi.

Deilliannau dysgu

Bydd y sawl sy’n dilyn y cwrs yn caffael gwybodaeth a dealltwriaeth am 

  • ofynion y Safonau yng nghyswllt cytundebau a grantiau
  • y trefniadau a’r gweithdrefnau y mae angen gosod yn eu lle er mwyn cynllunio, rheoli a monitro cytundebau a grantiau yn unol â’r Safonau
  • arferion da yn y maes.

Cynhelir y sesiwn trwy gyfrwng y Saesneg. 

Fe’i cynhelir trwy ddarparu cyflwyniad PowerPoint , cyfleoedd i drafod ac ymarferion  grŵp.

Yr hyfforddwr   

Dr Steve Eaves yw Cyfarwyddwr Cynllunio Iaith Corfforaethol IAITH: y ganolfan cynllunio iaith. Bu’n gweithio ym maes polisi iaith a gwasanaethau iaith ers 35 mlynedd. Yn dilyn gyrfa ym maes cynllunio ieithyddol mewn llywodraeth leol mae Steve yn un o uwch ymgynghorwyr IAITH ers 14 blynedd. Mae’n arbenigo mewn cynghori a chynorthwyo cyrff cyhoeddus ar weithredu dwyieithrwydd. Mae hefyd yn hyfforddi ar amryw o faterion cysylltiedig, gan gynnwys ymwybyddiaeth iaith, recriwtio a strategaethau sgiliau iaith, a datblygiadau ym maes deddfwriaeth iaith a pholisi iaith. steve.eaves@iaith.eu

Rhaglen