Cyflwyniad i Gynllunio Iaith (1)
Dyddiad: | 15 September - 15 September |
Lleoliad: | Galeri, Caernarfon |
Hyfforddwr: | Dr Kathryn Jones |
Tâl: | £155 + TAW / £125 + TAW i aelodau IAITH |
Amser: | 9:30 am - 16:30 pm |
Nod
Bwriad y cwrs yw rhoi cyfle i bobl sy’n gweithio gyda’r Gymraeg i ymgyfarwyddo â phrif egwyddorion y maes Polisi a Chynllunio Iaith (P&CI) a pherthnasu hynny i’w maes gwaith eu hunain.
Cynnwys: Diwrnod 1 (Bydd sesiwn 2 yn yr Hydref i rai sy'n dymuno. Gellir cofrestru ar gyfer un diwrnod yn unig neu’r ddau ddiwrnod )
Bydd y cwrs yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau a gweithgareddau gweithdy ar yr agweddau canlynol:
- Diffiniadau: Beth yw iaith? Beth yw diwylliant?
- Iaith, tiriogaeth a rhwydweithiau cymdeithasol
- Iaith a grym - hawliau a chydraddoldeb
- Cysgod hanes
- Deall y profiad dwyieithog
- Beth yw polisi a chynllunio iaith?
- Olrhain y gwreiddiau
- Rhai egwyddorion a modelau
- P&CI yng Nghymru
- Iaith a newid cymdeithasol
- Newid ymddygiad ieithyddol
Paratoir pecyn hyfforddi ar sail yr wybodaeth a gyflwynir, ynghyd â llyfryddiaeth bwrpasol.
Gosodir aseiniad darllen a myfyrio ar ddiwedd Diwrnod 1 ar gyfer Diwrnod 2 i’r rhai sydd am fynychu’r ail ddiwrnod yn ogystal.
Cyfrwng
Cymraeg fydd iaith yr hyfforddi.
Hyfforddwr
Kathryn Jones yw Cyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil IAITH. P&CI ac arferion iaith oedd maes doethuriaeth Kathryn. Mae’n hyfforddwr profiadol, gyda thros 20 mlynedd o brofiad yn darparu nifer o gyrsiau academaidd a datblygiad proffesiynol mewn P&CI yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n dysgu tystysgrif ôl-radd P&CI ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.