Datblygu Sgiliau Cymraeg i Reolwyr

Cwrs 3 diwrnod

Dyddiad: 03 June - 03 June
Lleoliad: Canolfan Halliwell, Prifsygol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin
Hyfforddwr: Gareth Ioan, Steve Eaves a Llion Jones
Tâl: £595 + TAW (£545 + TAW i aelodau IAITH)
Amser: 9:15 am - 16:30 pm

3, 18 o Fehefin a 2 o Orffennaf 2015 

Mae'r cwrs ar gyfer rheolwyr sy'n siarad Cymraeg yn rhugl yn gymdeithasol ond sy'n teimlo rhywfaint yn ddihyder wrth ddefnyddio Cymraeg wrth eu gwaith - ac sydd eisiau codi lefelau eu hyder a'u hyfedredd.

Nod y cwrs yw meithrin hyder rheolwyr (lefel 4/5) Cymraeg eu hiaith i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a chynyddu eu defnydd o'r Gymraeg wrth eu gwaith.

Bydd y cwrs yn cynnwys y pynciau canlynol:

* Ymwybyddiaeth iaith
* Cymraeg a'r cyfrifiadur
* Gloywi iaith
* Cadeirio cyfarfodydd a phwyllgorau
* Siarad cyhoeddus
* Paratoi a rhoi cyflwyniadau
* Delio gyda'r wasg
* Trafod gwaith gyda staff - anwytho ac arfarnu perfformiad
* Gweithleoedd dwyieithog - hwyluso newid   

Beth ddywedodd mynychwyr blaenorol

"Teimlo yn llawer mwy hyderus ar ôl mynychu'r cwrs. Mwy o hyder erbyn hyn i ysgrifennu Cymraeg yn gywir ac fwy ffurfiol".

"Cwrs gwych - wedi bod o gymorth mawr i ddatblygu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn ffurfiol ac anffurfiol".

"Ar ôl cwblhau y cwrs rwy'n sylweddoli fy mod angen gwneud mwy o ymdrech i ddefnyddio Cymraeg".

"Yn eithaf hyderus cyn y cwrs. Mae gwybodaeth am adnoddau technegol wedi bod yn help. Mae'r ymarferiadau a chyd-destun y cwrs hefyd wedi bod o fudd".

"Dwi'n teimlo fy mod wedi ennill geirfa, adnoddau a chodi hyder".

"Wedi dysgu llawer iawn ar y cwrs. Mae gen i lot mwy o waith i'w wneud ond mae'n ddechrau da. Diolch yn fawr".

"Rwyf yn teimlo'n llawer mwy hyderus wrth drafod yn gyhoeddus ac yn credu fod fy sgiliau ysgrifenedig wedi gwella hefyd".

"Rwyf lot hapusach yn defnyddio Cymraeg yn y sefyllfa fusnes rwan".

"Dwi wedi gwirfoddoli i fod yn Bencampwr y Gymraeg".

Rhaglen