Dwyieithrwydd: Yr Achos Busnes


Dyddiad: 26 January - 26 January
Lleoliad: Tŷ Tudur, Prestatyn
Hyfforddwr: Siwan Tomos a Ffion Alun
Tâl: Am ddim
Amser: 8:15 am - 9:30 am

Mae prosiect Y Gymraeg mewn Busnes sy’n cael ei redeg gan IAITH: y ganolfan cynllunio iaith ac yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Dinbych yn bwriadu rhedeg cyfres o weithdai i gefnogi busnesau i weithio’n ddwyieithog. Bydd y gweithdai yn gweithio’n benodol i godi ymwybyddiaeth, sgiliau a hyder busnesau i ddefnyddio’r Gymraeg gyda chwsmeriaid er mwyn eu denu yn ôl dro ar ôl tro.

Dyma sesiwn ar gyfer perchnogion a rheolwyr busnesau.

Bydd y busnesau yn:

  • Derbyn cyflwyniad i ymwybyddiaeth iaith
  • Dysgu mewn awyrgylch ddiogel
  • Dysgu am arfer dda
  • Cael mynediad at adnoddau
  • Dysgu sut i gymhwyso’r wybodaeth i’w gwaith bob dydd
  • Rhwydweithio gyda busnesau eraill o’r dref 

Os oes gennych chi neu aelod o’ch staff ddiddordeb mynychu rhai o’r sesiynau uchod mae croeso mawr i chi gysylltu ar siwan.tomos@iaith.eu neu 01745 222052. Rydym yn gofyn yn garedig i bawb gofrestru eu diddordeb cyn dod i un o’r gweithdai.

Bydd lluniaeth ysgafn a chroeso cynnes yn eich disgwyl.

Rhaglen