Gloywi Iaith


Dyddiad: 28 September - 28 September
Lleoliad: Yr Atom, Caerfyrddin
Hyfforddwr: Siwan Tomos
Tâl: £155 + TAW, £125 + TAW i aeloedau IAITH
Amser: 9:30 am - 16:30 pm

Nod y cwrs:

Ysgrifennu Cymraeg yn fwy hyderus, clir a chywir.

Amcanion y cwrs:

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi cael cyfle i:

  • Adolygu nifer o reolau gramadeg
  • Rhoi prawf ar eich sgiliau ysgrifennu
  • Cymhwyso'r wybodaeth ar gyfer eich gwaith bob dydd a chynhyrchu darnau ysgrifenedig rydych yn falch ohonynt.

Mae'r cwrs yn cynnwys nifer o agweddau, er enghraifft,

  • Defnyddio geiriadur yn effeithiol
  • Y treigladau
  • Yr arddodiaid a'r fannod
  • Dyblu'r 'n'
  • Ysgrifennu Cymraeg clir
  • Gwirio dogfennau gyda chymorth electronig

 

Caiff yr hyfforddiant ei seilio ar gyfres o weithgareddau ymarferol sy'n help i fagu hyder a chynyddu sgiliau.

Rhaglen