Gweithio’n Ddwyieithog yn y Trydydd Sector


Dyddiad: 15 June - 15 June
Lleoliad: FLVC Corlan, Parc Busnes Y Wyddgrug
Hyfforddwr: Siwan Tomos a Ffion Alun
Tâl: £85 + TAW / £75 + TAW i aelodau IAITH
Amser: 13:00 pm - 16:00 pm

Nod

Nod yr hyfforddiant yma yw rhoi hyder a gwybodaeth i fudiadau ddatblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn eu gweithleoedd ac yn eu gwasnaethau

Ar gyfer pwy?

  • Rheolwyr a gweithwyr llinell flaen sy’n dymuno datblygu dwyieithrwydd eu mudiad   
  • Swyddogion sydd yn gyfrifol am bolisi iaith eu mudiad
  • Unigolion sydd eisiau gwybod mwy am arwyddocâd gweithredu’n ddwyieithog 

Cynnwys

Bydd hyfforddeion yn:

  • Derbyn cylfwyniad i ymwybyddiaeth iaith sylfaenol
  • Trafod manteision gweithredu’n ddwyieithog
  • Edrych ar ddeddfwriaeth a pholisi cyhoeddus o safbwynt datblygu dwyieithrwydd
  • Edrych ar brofiadau defnyddwyr gwasanaethau
  • Derbyn gwybodaeth a thrafod dulliau ymarferol o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y mudiad
  • Adnabod heriau a datrys problemau
  • Edrych ar esiamplau o arfer dda
  • Cael y cyfle i rwydweithio dros baned 

Hyfforddwr

Siwan Tomos yw Cyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant IAITH. Daeth Siwan at IAITH ar ddiwedd 2011 gyda chefndir fel gweithiwr ieuenctid a chymuned. Siwan sy'n gyfrifol am brosiectau cynllunio iaith cymunedol y cwmni. Mae hefyd yn hyfforddwraig brofiadol ac wedi darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i lu o fudiadau a sefydliadau yng Nghymru yn cynnwys Y Cynulliad Cenedlaethol, Cyngor Sir Ceredigion, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, Opera Cenedlaethol Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Mae Siwan hefyd yn cyfrannu at waith ymchwil a datblygu maes cymunedol IAITH: y ganolfan cynllunio iaith. siwan.tomos@iaith.eu

Mae Ffion Alun wedi gweithio gydag IAITH dros y tair blynedd diwethaf fel Swyddog Datblygu Estyn Llaw.  Mae’n hyfforddwraig fedrus ac mae ganddi gefndir yn y maes hyfforddi drwy ei gyrfa flaenorol gyda Grŵp Llandrillo Menai a Gyrfa Cymru.

Yn ei chyfnod gydag Estyn Llaw mae Ffion bod yn gweithio gyda nifer o grwpiau cymunedol ar draws Sir Conwy yn eu hannog i gymryd rhan mewn amryw o ymgynghoriadau.

Rhaglen