Hyfforddiant Dulliau Casglu Tystiolaeth
Dyddiad: | 09 July - 09 July |
Lleoliad: | Llanewly |
Hyfforddwr: | Dr Kathryn Jones |
Tâl: | £175 + TAW (£145 + TAW i aelodau IAITH) |
Amser: | 9:15 am - 16:30 pm |
Nod yr hyfforddiant yw cynnig cyflwyniad i ddulliau ymchwil a chasglu tystiolaeth maes. Anelir y diwrnod at swyddogion yn y maes polisi a chynllunio iaith yn bennaf ond mae croeso i bawb â diddordeb.
Ceir cyfle i ddatblygu sgiliau ymchwil trwy ystyried:
- egwyddorion ymchwil sylfaenol
- gosod cwestiynau ymchwil
- sut mae llunio sampl
- technegau casglu gwybodaeth, barn ac agweddau
- cryfderau a chyfyngiadau gwahanol ddulliau
Caiff y sesiwn undydd ei deilwra i anghenion penodol y mynychwyr.
Ceir cyfle hefyd i drafod arferion moesegol priodol a sut i gydymffurfio â gofynion Deddf Diogelu Data 1998.