“Dwy Her – Y Safonau Iaith a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol”
Y Llwyfan, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin
9:30 am - 13:00 pm, 16 Hydref 2015
AR GYFER PWY?
Bydd y seminarau hyn o ddiddordeb arbennig i Swyddogion sefydliadau a fydd yn gweithredu’r Safonau Iaith Gymraeg a Swyddogion sefydliadau y bydd yn ofynnol iddynt gydymffurfio â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
PWRPAS:
Cynhelir y seminarau hyn ar adeg amserol iawn fis Hydref nesaf, pan fydd y grŵp cyntaf o gyrff cyhoeddus newydd dderbyn Hysbysiad ffurfiol gan Gomisiynydd y Gymraeg i weithredu Safonau Iaith. Ar yr un pryd bydd gweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn destun ymgynghoriad cyfredol gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y 2 seminar hyn yw darparu cyfle i swyddogion cyrff perthnasol ddod ynghyd i dderbyn gwybodaeth a thrafod materion cysylltiedig â’r ddwy her. Gan fod y ddwy her uchod yn codi o ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru, gwahoddwyd swyddogion y Llywodraeth i gyflwyno drosolwg ar y ddau gyd-destun, a’r cyswllt rhyngddynt.
Ymateb i her y Safonau Iaith:
Beth yw’r prif heriau a ragwelir gan y grŵp cyntaf o gyrff cyhoeddus y pennir Safonau iddynt?
- Cyflwyniad gan gynrychiolydd Comisiynydd y Gymraeg, o bersbectif y rheoleiddiwr.
- Cyflwyniad o bersbectif Awdurdod Lleol:Carys Morgan, Swyddog Polisi Iaith a Chydraddoldeb, Cyngor Ceredigion
Ymateb i agweddau ieithyddol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru):
Ceir adrannau o fewn y Ddeddf hon sy’n berthnasol i gynllunio ieithyddol o fewn cyrff cyhoeddus yn ogystal â chyrff eraill nas cynhwysir o fewn cwmpas Mesur y Gymraeg 2011. Cwestiwn sy’n codi o’r ystyriaethau ieithyddol ynddi yw: beth yw’r cyswllt rhwng y Safonau Iaith ac agweddau perthnasol ar y Ddeddf Llesiant? Yn y ddau seminar ceir:
- Cyflwyniad gan Huw Charles, Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru
- Cyflwyniad gan gynrychiolydd Is-Adran Iaith, Llywodraeth Cymru
- Cyflwyniad gan Mike Palmer, Rheolwr Datblygu Cynaliadwy - Swyddfa Archwilio Cymru. Sut yr eir ati i reoleiddio ‘penderfyniadau cynaliadwy’ o dan y Ddeddf hon – gan gynnwys cynaliadwyedd ieithyddol?.
Y seminarau hyn fydd y rhai cyntaf i archwilio’r cyswllt rhwng y ddau faes uchod, a hyderir y byddant o fudd i swyddogion amryw o gyrff perthnasol.