‘GWEITHREDU’N LLEOL’ – sesiynau hyfforddi a chefnogi

Aberystwyth
10:00 am - 16:00 pm, 09 Hydref 2015


Ar ran y Llywodraeth, bydd IAITH: y ganolfan cynllunio iaith yn cynnal cyfres arall o sesiynau hyfforddi a chefnogi er mwyn hwyluso gweithrediad methodoleg yr adnodd ‘Gweithredu’n Lleol’. Bydd yr hyfforddiant yn fuddiol ac yn berthnasol i bawb sy'n arwain grwpiau lleol yn y gwaith o hybu’r Gymraeg yn lleol. Er mai ar gyfer swyddogion Mentrau Iaith a swyddogion sy’n ymwneud a gweithgarwch datblygu cymunedol o fewn Awdurdodau Lleol y bwriedir yr hyfforddiant yma yn bennaf, mae croeso i wirfoddolwyr sy'n awyddus i gyfrannu at waith o'r math yma yn lleol i fynychu gyda’r swyddogion cyflogedig. Croeso i chi eu cofrestru yn enw'r Fenter os oes diddordeb.

Sesiynau

Cynhelir set o gyfarfodydd hyfforddi ar y dyddiadau a nodir, a gyda’r bwriadau canlynol:

9 Hydref, 2015. Sesiwn hyfforddi cychwynnol (10.00a.m. – 4.00p.m.) a fydd yn cynnig:

  • cyflwyniad i gefndir ac egwyddorion ‘Gweithredu’n Lleol’
  • cyflwyniad sylfaenol i dechnegau ac egwyddorion gwaith datblygu cymunedol
  • cyflwyniad i gynnwys y pecyn ‘Gweithredu’n Lleol’ a’i fethodoleg
  • cyfle i flaengynllunio.

15 Ionawr, 2016. Sesiwn hyfforddi ‘diwrnod byr’ (10.30a.m. – 3.00p.m.) o gyd-drafod, manylu ar agweddau o hwyluso’r broses, rhannu profiadau ac adolygu.

11 Mawrth, 2016. Sesiwn hyfforddi ‘diwrnod byr’ (10.30a.m. – 3.00p.m.) i rannu profiadau, trafod ymestyn allan ac agweddau ar ddatblygu cymunedol, gwerthuso’r broses a blaengynllunio pellach.

Cofrestru

I gofrestru, cysylltwch â Gareth Ioan, IAITH Cyf. post@iaith.eu gydag enwau mynychwyr erbyn 25 Medi os gwelwch yn dda. Ni chodir tâl am yr hyfforddiant.