Y Gymraeg ar y wê
Tŷ Tudur, Prestatyn
17:15 pm - 18:30 pm, 16 Chwefror 2017
Mae prosiect Y Gymraeg mewn Busnes sy’n cael ei redeg gan IAITH: y ganolfan cynllunio iaith ac yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Dinbych yn bwriadu rhedeg cyfres o weithdai i gefnogi busnesau i weithio’n ddwyieithog. Bydd y gweithdai yn gweithio’n benodol i godi ymwybyddiaeth, sgiliau a hyder busnesau i ddefnyddio’r Gymraeg gyda chwsmeriaid er mwyn eu denu yn ôl dro ar ôl tro.
Mae’r sesiwn yma ar gyfer unrhyw un sy’n defnyddio’r wê neu sy’n dymuno defnyddio’r wê i hyrwyddo eu busnes.
Bydd busnesau yn:
- Cael y cyfle i ddysgu am adnoddau sydd ar gael i’w cefnogi i ddatblygu dwyieithrwydd yn eu presenoldeb ar-lein
- Cael y cyfle i gael profiad ymarferol o ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol yn ddwyieithog
- Dysgu am ymgyrchoedd ar-lein penodol sydd ar gael i hyrwyddo busnesau dwyieithog.
- Datblygu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg ar-lein
- Derbyn cyngor ar ddylunio dwyieithog
- Derbyn adnodd ar-lein pwrpasol i gefnogi eu gwaith ar-lein.
Os oes gennych chi neu aelod o’ch staff ddiddordeb mynychu rhai o’r sesiynau uchod mae croeso mawr i chi gysylltu ar siwan.tomos@iaith.eu neu 01745 222052. Rydym yn gofyn yn garedig i bawb gofrestru eu diddordeb cyn dod i un o’r gweithdai.
Bydd lluniaeth ysgafn a chroeso cynnes yn eich disgwyl.