Blas o’r Gymraeg

01 Medi 2016

Bu criw o Gysgod y Gogarth, Llandudno yn cael hwyl yn mwynhau sesiynau Blas o Gymraeg.  


Blas o’r Gymraeg

Roedd y 4 sesiwn anffurfiol yma yn cael eu cynnig fel rhan o gynllun ‘Banc Amser’ sy’n cael ei redeg yn ardal Llandudno ar gyfer tenantiaid Cartrefi Conwy.  Dewisodd y tenantiaid wario rhai o’u credydau ar gael dechrau dysgu Cymraeg mewn ffordd hwyliog.  Bu trafod am hoff fannau yng Nghymru, profiadau o ddysgu Cymraeg yn y gorffennol ac edrych ar ble y gellir mynd i ymarfer sgwrsio yn eu hardal leol.  Cafwyd ymateb dda iawn, ac mae'r criw yn awyddus i ddysgu mwy.