IAITH yn ehangu’r tîm

27 Gorffennaf 2016

Mae IAITH yn falch o groesawu tîm o Ymgynghorwyr Cysylltiol newydd i gydweithio ochr yn ochr â’r staff craidd. “Wrth edrych ymlaen i gyfnod newydd yn hanes y cwmni, rydyn ni’n falch o fedru cyhoeddi tîm cryf o Ymgynghorwyr Cysylltiol a fydd yn gweithredu dan faner IAITH”, meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr newydd Dr Kathryn Jones.


IAITH yn ehangu’r tîm

Mae’r tîm yn cynnwys yr Athro Colin Williams, Meirion Prys Jones, Steve Eaves a Gareth Ioan. Mae’r pedwar yn ffigyrau amlwg ym maes polisi a chynllunio iaith, yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r Athro Colin Williams yn academydd amlwg o statws rhyngwladol gyda chysylltiadau â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caergrawnt. Bu Meirion Prys Jones yn Brif Weithredwr ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac mae ar hyn o bryd yn Brif Weithredwr y rhwydwaith Ewropeaidd o gynllunwyr iaith, NPLD.

Bu Steve Eaves a Gareth Ioan yn gyflogedig gan IAITH tan yn ddiweddar, gyda’r ddau wedi cyfrannu’n eang ac amlwg i ddatblygiad polisi a chynllunio iaith yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae Steve Eaves yn arbenigwr ar gynllunio iaith corfforaethol a bu Gareth Ioan yn arwain ar agweddau o gynllunio iaith cymunedol.

“Gyda strategaeth iaith newydd yn yr arfaeth a’r Safonau newydd yn cael eu gweithredu, bydd y tîm newydd yn gaffaeliad mawr i ni ac yn adnodd cadarn iawn i’n haelodau a’n cleientiaid”, meddai Kathryn. “Dwi’n edrych ymlaen at arwain cyfnod cyffrous iaith yn hanes IAITH ac yn natblygiad pellach cynllunio iaith yng Nghymru”.