Mae IAITH yn recriwtio
26 Mai 2017
Mae IAITH yn chwilio am unigolyn bwrdfrydig i lenwi'r swydd isod:
Swyddog Cyllid (swydd llanw cyfnod mamolaeth)
15 awr yr wythnos
oriau / dyddiau hyblyg
cyflog i’w drafod
Mewn cydweithrediad â’r Rheolwr Gyfarwyddwr bydd y Swyddog Cyllid yn cynnal gorolwg a rheolaeth dros agweddau ariannol a chyllidol y cwmni. Swydd llanw dros gyfnod mamolaeth yw’r swydd hon, wedi ei lleoli yn swyddfa IAITH yn Abergele. Rydym yn chwilio am berson gyda dealltwriaeth drylwyr o feddalwedd Sage 50 ac Excel.
Dyddiad cau: 10.00 y.b. dydd Mercher, 8 Mehefin, 2017
Manylion pellach ar gael trwy gysylltu â Siwan Tomos (siwan.tomos@iaith.eu), 01745 222 052 / 07817 640 236