Miliwn o siaradwyr Cymraeg: Ymateb Cynllunwyr Iaith Cymru

27 Hydref 2016

                           

Dros yr wythnosau diwethaf mae IAITH wedi bod yn paratoi ymateb Cynllunwyr Iaith Cymru i strategaeth ddrafft y Llywodraeth ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.’


Mae’r ddogfen hon yn ganlyniad cyfres o gyfarfodydd ymgynghorol a gynhaliwyd gan Gynllunwyr Iaith Cymru fel a ganlyn:

  • Gweithgor ymgynghorol – Prifysgol Aberystwyth, 20 Medi 2016
  • Cyfarfod ymgynghorol – Prifysgol Aberystwyth, 10 Hydref 2016
  • Cyfarfod ymgynghorol – Swyddfa IAITH, Abergele, 11 Hydref 2016
  • Cyfarfod ymgynghorol - Lido Pont-y-pridd, 12 Hydref 2016

Cyfrannodd dros 40 o aelodau CIC i’r cyfarfodydd uchod ac anfonwyd cyfraniadau ar e-bost gan nifer o aelodau eraill. Mae aelodau CIC yn broffesiynolion yn y maes polisi a chynllunio iaith - yn ymgynghorwyr, academyddion ac ymarferwyr.

Anfonwyd yr ymateb at Lywodraeth Cymru ddydd Mawrth. Gallwch ddarllen yr ymateb yma