Newid awenau yn IAITH

14 Gorffennaf 2016

Ar ôl cyfnod o bron 20 mlynedd yn arwain IAITH: y ganolfan gynllunio iaith, mae’r Prif Weithredwr, Gareth Ioan,  wedi penderfynu trosglwyddo awenau’r Ganolfan i’w olynydd. 


Newid awenau yn IAITH

Bydd Gareth yn gadael ei swydd fel Prif Weithredwr IAITH ar ddiwedd Gorffennaf a bydd Dr Kathryn Jones, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil cyfredol y cwmni, yn cymryd at y llyw fel Rheolwr Gyfarwyddwr o ddechrau Awst.

Cyflwynodd Gareth ei ugeinfed adroddiad blynyddol a’i olaf i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol IAITH ar 13 Gorffennaf. “Mae’n teimlo fel diwedd un cyfnod a dechrau un newydd ar sawl cyfrif ar hyn o bryd”, meddai Gareth. “Wedi bron i 20 mlynedd wrth y llyw mae’n amserol i mi gamu o’r neilltu a gadael i bâr newydd o ddwylo arwain y cwmni i’r cyfnod cyffrous nesaf”.

Dros y ddau ddegawd diwethaf bu IAITH yn gyfrifol am nifer o ddatblygiadau arwyddocaol ym maes hyrwyddo’r Gymraeg: o redeg y cynllun Twf, i sefydlu rhaglenni addysg a hyfforddiant allweddol a hwyluso’r Gynhadledd Fawr ar ran y Prif Weinidog. “Mae hi wedi bod yn fraint ac anrhydedd cael y cyfle i arwain tîm mor flaengar a dychmygus mewn cyfnod o dwf mor arwyddocaol i’r Gymraeg”, meddai Gareth. “Mae’r galw am wasanaethau IAITH ar gynnydd ar hyn o bryd ac rwy’n hyderus iawn fod yna ddyfodol disglair i’r cwmni. Mae’r profiad a’r arbenigedd sydd wedi ei grynhoi gan IAITH dros y blynyddoedd yn anghymharol”.

Er gadael ei swydd arweiniol ni fydd Gareth yn colli cyswllt gyda IAITH na’r maes polisi a chynllunio iaith, gan y bydd yn parhau’n Ymgynghorydd Cysylltiol i’r cwmni ac yn cymryd sedd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr y cwmni. “Rwy’n edrych ymlaen at fedru parhau i ddefnyddio fy mhrofiad yn y maes i gynorthwyo cleientiaid hen a newydd i ddatblygu eu dwyieithrwydd a’u gwaith yn hyrwyddo’r Gymraeg”, meddai. “Newid rôl fydd yn digwydd nid cymaint newid byd. Mae gan IAITH lawer o waith i’w wneud eto wrth i ni gefnogi datblygiad proffesiwn cynllunio iaith cadarn yng Nghymru”.