Diweddarwyd  24 Mai 2018

Hysbysiad Preifatrwydd Data a Cwcis Iaith

Cafodd cynnwys yr Hysbysiad Preifatrwydd Data a Cwcis ei gwirio a’i diweddaru i gydymffurfio â gofynion y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) sy’n weithredol o 25 Mai 2018.


Mae’r hysbysiad hwn yn rhoi gwybodaeth am beth i’w ddisgwyl pan fydd Iaith yn casglu, defnyddio, datgelu, trosglwyddo a chadw eich data personol.

Iaith, Uned 3, Parc Busnes Aberarad, Castellnewydd Emlyn, SA38 9DB yw Rheolwr Data y wybodaeth mae’n gasglu gennych.


Mae Iaith yn ymrwymedig i ddiogelu gwybodaeth bersonol mae’n ei dderbyn. Pryd bynnag y bydd Iaith yn derbyn gwybodaeth mae dyletswydd gyfreithiol i ddefnyddio’r wybodaeth yn unol â’r holl gyfreithiau perthnasol ar ddiogelu gwybodaeth bersonol, gan gynnwys Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) 2018 (cyfeirir at y cyfreithiau hyn gyda’u gilydd yn yr hysbysiad hwn fel “cyfraith diogelu data”).

Eich Hawliau dan Gyfraith Diogelu Data

Mae gennych amrywiol hawliau dan Gyfraith Diogelu Data. Gall y rhain gynnwys (fel sy’n berthnasol): 

  • yr hawl i ofyn am gyrchu’r data personol mae Iaith yn ei ddal amdanoch (gweler y pennawd “Cyrchu gwybodaeth bersonol” isod am fwy o fanylion);
  • yr hawl i gywiro gan gynnwys mynnu bod Iaith yn cywiro data personol anghywir; yr hawl i ofyn am gyfyngu prosesu amdanoch chi neu i wrthwynebu prosesu eich data personol; yr hawl i ofyn am ddileu eich data personol lle nad oes angen i Iaith bellach ei gadw; 
  • yr hawl i gludo data gan gynnwys i gael data personol mewn fformat y gellir ei ddarllen gan beiriant dan rai amgylchiadau megis lle mae ei brosesu yn seiliedig ar gydsyniad;
  • yr hawl i dynnu’n ôl eich cydsyniad i unrhyw brosesu y rhoesoch y cydsyniad hwnnw iddo ymlaen llaw.

Wrth i chi gysylltu â Iaith, pa wybodaeth fydd yn cael ei gasglu?

  • Enw Llawn
  • Cyfeiriad
  • Cyfeiriad e-bost
  • Unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych i Iaith mewn ffurflenni cysylltu neu trwy ohebiaeth
  • Unrhyw wybodaeth fyddai’n helpu Iaith i wneud addasiadau rhesymol i chi

Sut y bydd y Iaith yn defnyddio eich manylion

Bydd eich manylion yn cael eu defnyddio ar gyfer nifer o bwrpasau, gan gynnwys:

• Ymwelwyr â gwefan Iaith (gweler hefyd y dudalen Cwcis);
• I ymarfer swyddogaethau statudol Iaith;
• I fodloni gofynion cytundeb rhyngddo chi a Iaith;
• I gydymffurfio ag unrhyw ddeddfwriaeth mae Iaith yn ddarostyngedig iddo.

Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys manylion cynhwysfawr am bob agwedd ar y modd y bydd Iaith yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon am yr hysbysiad hwn neu am y modd mae Iaith yn defnyddio gwybodaeth bersonol, cysylltwch â Iaith.

Y sail gyfreithiol

Gall eich cydsyniad fod yn rheswm cyfreithiol dros brosesu eich data personol. Mae hyn yn golygu eich cydsyniad penodol, gwybodus a diamwys a roddir yn rhydd ac y gellir ei gasglu gennych, er enghraifft, pan fyddwch yn cytuno i dderbyn cylchlythyr (gwybodaeth am hyfforddiant, digwyddiadau a newyddion) gan Iaith neu pan gytunwch i gymryd rhan mewn arolygon neu ymchwil (fel sy’n berthnasol). Mae gennych hawl dan Gyfraith Diogelu Data 1998 i dynnu’n ôl eich cydsyniad lle’i rhoddwyd, ar unrhyw adeg.

Cwcis

(i) Monitro gweithgarwch defnyddwyr
Rydym yn monitro gweithgarwch defnyddwyr y wefan hon er mwyn gwella’r cynnwys. Mae’r wefan yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi’r we a ddarperir gan Google Inc. ('Google'). Mae Google Analytics yn defnyddio “cwcis” a chod JavaScript i helpu’r wefan i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio’r safle. Bydd yr wybodaeth a gynhyrchir gan y cwci am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei throsglwyddo a’i storio ar weinydd Google.

Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn llunio adroddiadau am weithgaredd y wefan i weithredwyr y wefan. Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti pan fydd yn ofynnol i wneud hynny’n gyfreithiol, neu pan fydd trydydd parti yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.

Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata arall a gedwir gan Google. Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr, ond nodwch os gwnewch hyn efallai na fyddwch yn gallu defnyddio’r wefan hon yn llawn. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn rhoi caniatâd i Google brosesu data amdanoch chi yn y dull ac i’r dibenion a nodwyd uchod.

Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Google a Thelerau Gwasanaeth Llawn Google am yr wybodaeth fanwl.

(ii) Cwcis
Ffeiliau testun bach yw cwcis y mae’r gwefannau rydych chi’n ymweld â nhw yn eu hanfon i’ch cyfrifiadur neu’ch dyfais symudol. Maen nhw’n helpu gwefannau i weithio’n well a rhoi gwybodaeth i berchnogion gwefannau. Er enghraifft, mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis Google Analytics i olrhain ymddygiad defnyddwyr ar y wefan. Drwy ddeall sut mae pobl yn defnyddio’n gwefan, gallwn ni ei gwneud yn haws i ddefnyddio’r wefan a chynnig cynnwys sy’n diwallu anghenion pobl yn well. Mae’r wybodaeth y mae Iaith y Gymraeg yn ei chasglu yn cynnwys cyfeiriad IP, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, porwr a system weithredu. Ni chaiff y data’i ddefnyddio i adnabod unrhyw ddefnyddwyr yn bersonol. Dyma’r cwcis ar ein gwefan:

Cwci ​ Enw Diben​
  __utma
__utmb
__utmc
__utmz
Caiff y cwcis hyn eu defnyddio i weld sut mae ymwelwyr yn defnyddio’n gwefan. Rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth i’n helpu i wella’r wefan. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth yn ddienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r wefan, a ydyn nhw wedi ymweld â’r wefan o’r blaen a’r tudalennau y maen nhw’n ymweld â nhw.

Caiff y cwcis hyn eu defnyddio i weld sut mae ymwelwyr yn defnyddio’n gwefan. Rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth i’n helpu i wella’r wefan. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth yn ddienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r wefan, a ydyn nhw wedi ymweld â’r wefan o’r blaen a’r tudalennau y maen nhw’n ymweld â nhw.

Mae modd rheoli rywfaint ar gwcis drwy osodiadau eich porwr. I ddysgu mwy am gwcis a sut i’w rheoli, ewch i www.allaboutcookies.org

Gwneud Data yn Ddienw

Gall Iaith drosi eich data personol yn ddata ystadegol neu a gydgasglwyd yn y fath fodd fel ag i sicrhau nad ydych yn cael eich enwi neu y gellir eich adnabod o’r data hwnnw. Gall Iaith ddefnyddio’r data hwn a gydgasglwyd i gynnal ymchwil a dadansoddiadau, gan gynnwys er mwyn cynhyrchu ymchwil ac adroddiadau ystadegol. Gall y Comisiynydd rannu data a gydgasglwyd mewn sawl ffordd, gan gynnwys am yr un rhesymau ag y gall rannu data personol.

Rhannu eich gwybodaeth gyda thrydydd partïon

Ni fydd Iaith yn rhannu eich gwybodaeth ag unrhyw drydydd parti oni bai ei bod yn ofynnol i wneud hynny yn ôl y gyfraith neu fod gan Iaith sail gyfreithiol i wneud hynny. 

Am ba hyd bydd Iaith yn cadw eich gwybodaeth 

Bydd y Iaith yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn unol â’i Bolisi Cadw a Gwaredu Gwybodaeth.

Cyflenwyr

Bydd y Iaith yn cadw gwybodaeth am ei gyflenwyr ar ei systemau rheolaeth ariannol a hynny at ddibenion rheoli’r berthynas â nhw, fel trefniadau archebu nwyddau neu wasanaethau a threfnu taliadau. Gellir defnyddio’r wybodaeth hefyd at ddibenion cofnodi mewnol. 

Ymgeisio am swyddi 

Bydd y wybodaeth a gaiff Iaith fel rhan o’r broses ymgeisio’n cael ei thrin yn gyfrinachol a dim ond y tîm Adnoddau Dynol ac aelodau o’r panel dethol fydd yn ei gweld, a hynny at ddibenion y broses recriwtio. Os bydd Iaith am ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi i drydydd parti - er enghraifft, os oes arbenigwr rheoli ymgeiswyr trydydd parti yn rhan o’r broses ddethol neu, os ydy am ofyn am eirda – bydd yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw, oni bai bod yn rhaid datgelu’r wybodaeth o dan y gyfraith.

Bydd y Iaith yn cadw gwybodaeth bersonol am ymgeiswyr am gyfnod o ddau fis fan bellaf ar ôl i’r broses recriwtio ddod i ben, ac yna caiff ei dinistrio neu ei dileu.

Swyddogion presennol a chyn Swyddogion

Dylai swyddogion gyfeirio at yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer swyddogion. Pan ddaw’ch cyflogaeth â Iaith i ben, bydd yn cadw gwybodaeth amdanoch yn unol â gofynion y polisi cadw a gwaredu gwybodaeth, ac yna’n ei dileu. 

Trosglwyddo y tu allan i’r AEE 

Ni fydd Iaith yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r AEE.  

Dilyn dolen i wefan arall

Mae gwefan Iaith yn cynnwys cysylltiadau â gwefannau eraill. 
Dim ond i wefan Iaith y mae'r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol, felly dylai unigolyn fod yn ymwybodol o hynny pan fydd yn symud i wefan arall, nid oes gan Iaith unrhyw reolaeth dros y wefan arall honno. Felly, ni allai Iaith fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei darparu pan fyddwch yn ymweld â safleoedd eraill ac nid yw safleoedd o’r fath yn cael eu rheoli gan y datganiad preifatrwydd hwn, dylech ddarllen datganiad preifatrwydd unrhyw wefan sy'n casglu gwybodaeth bersonol.

Cyrchu gwybodaeth bersonol  

Mae Cyfraith Diogelu Data yn rhoi’r hawl i chi gyrchu gwybodaeth a ddelir amdanoch neu i gael copïau ohono. Gallwch arfer eich hawl i gyrchu yn unol â chyfraith Diogelu Data ac y mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi gyflwyno eich cais i Iaith yn ysgrifenedig.
Cyfeiriwch at Bolisi Deddfwriaeth Diogelu Data Iaith am fanylion pellach. 
Heb ragfarnu unrhyw rwymedi gweinyddol neu farnwrol arall a fydd gennych, mae gennych yr hawl i gwyno wrth Iaith

Gwybodaeth os ydych yn ystyried bod Iaith wedi torri cyfreithiau preifatrwydd data cymwys wrth brosesu eich data personol.

https://ico.org.uk/

Newidiadau i hysbysiad preifatrwydd Iaith

Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, bydd Iaith yn diweddaru'r fersiwn ar y dudalen hon. Gall unigolyn ymweld â'r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn ymwybodol o'r wybodaeth a gesglir gan Iaith, ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y bydd Iaith yn ei rhannu ag unrhyw un arall. 

Cyswllt

Swyddog Diogelu Data, Iaith Cyf. 
01239 711 668
post@iaith.eu