Cynog Dafis a’r Mudiad Iaith
Dyddiad ac Amser: | 3.00p.m. ar ddydd Iau, 9fed Awst 2012 |
Cynog Dafis fydd yn traddodi darlith flynyddol Cynllunwyr Iaith Cymru eleni ar faes Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg. 'Y Mudiad Iaith: ble nesaf?' fydd testun y ddarlith sydd i'w thraddodi am 3.00p.m. ar ddydd Iau, 9fed Awst 2012, ym Mhabell y Cymdeithasau 1.
Bu Cynog yn flaenllaw wrth sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y 1960au ac mae wedi parhau i ymddiddori mewn materion iaith gydol ei yrfa wleidyddol a'i welodd yn Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad dylanwadol dros Blaid Cymru.
Bydd Cynog yn olrhain hanes y mudiad iaith yng Nghymru ers darlith hanesyddol Saunders Lewis, 'Tynged yr Iaith', hanner canrif yn ôl ac yn gosod nifer o heriau a chynnig rhai syniadau i gynllunwyr ac ymgyrchwyr iaith yng Nghymru heddiw.