Newid Ymddygiad a’r Gymraeg – ble nesa?


Dyddiad ac Amser: 10 Medi 2015, 9:30 - 1:00

Sefydliad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Prifysgol Aberystwyth

Yn dilyn seminar lwyddiannus llynedd, dyma gyfle i ddatblygu’r drafodaeth am yr her o ddylanwadu ar ddefnydd pobl o’r Gymraeg a dysgu gwersi pellach o’r Gwyddorau Ymddygiadol.

Bydd y gweithdy yma’n gyfle i bawb sy’n gweithio yn y maes iaith i:

  • fod yn ymwybodol o safbwynt gyfredol Llywodraeth Cymru ar ‘newid ymddygiad’ a’r Gymraeg;
  • rhannu’r heriau o ddylanwadu ar ddefnydd o’r Gymraeg yn y cartref, y gweithle, mewn ysgolion, yn y gymuned ayyb;  
  • ystyried dylanwad Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith, a
  • dysgu am egwyddorion a damcaniaethau o’r Gwyddorau Ymddygiadol.

Cyfranwyr gwadd:

Bethan Webb (Is-adran y Gymraeg: Llywodraeth Cymru)

Owain Glenister (Menter Castell Nedd Port Talbot)

Debbie Jones (Hunaniaith,Cyngor Gwynedd)

Dr Steve Eaves (IAITH: y ganolfan cynllunio iaith)

Yr Athro Rhys Jones (Prifysgol Aberystwyth) 

 

Cost (yn cynnwys paned):

 £50 + TAW

Aelodau IAITH: £40 + TAW