Diben Cynllunwyr Iaith Cymru yw:
- dod ag unigolion o feysydd gwahanol at ei gilydd i rwydweithio, rhannu profiadau a rhannu arferion da;
- hyrwyddo'r maes fel disgyblaeth broffesiynol a cheisio sicrhau cydnabyddiaeth iddi ar y lefel uchaf;
- bod yn llwyfan i ddatblygu a hwyluso datblygiad proffesiynol cyffredin yn y maes;
- bod yn fodd i hwyluso a rhoi llwyfan gyhoeddus i drafodaeth ddeallus ymysg gweithredwyr proffesiynol yn y maes;
- bod yn fodd i rannu gwybodaeth am gynllunio iaith ar lefel Gymreig ac yn fyd-eang ymysg ymarferwyr.
Wrth ddatblygu, bwriad Cynllunwyr Iaith Cymru fydd cynnig cyfleodd i:
- gyd-drafod materion o ddiddordeb mewn seminarau a chynadleddau achlysurol;
- rhannu arferion da;
- rhannu papurau ac erthyglau a fyddai o ddiddordeb i'r maes;
- derbyn gwybodaeth a newyddion trwy gyfrwng e-lythyr rheolaidd;
- cyfrannu at drafodaeth ar-lein ar faterion cynllunio iaith;
- rhwydweithio â chynllunwyr iaith eraill o dro i dro;
- cyfranogi mewn prosesau i broffesiynoli'r maes.
I bwy mae Cynllunwyr Iaith Cymru?
Mae CIC yn bodoli er mwyn unrhyw un sy'n ymwneud â hyrwyddo'r Gymraeg neu ddatblygu dwyieithrwydd yn eu gwaith beunyddiol:
- ymgynghorwyr annibynnol
- academyddion
- ymchwilwyr
- staff mentrau datblygu economaidd a chymunedol
- swyddogion polisi cyrff cyhoeddus neu wirfoddol
- staff mentrau iaith
- staff asiantaethau diwylliannol
Os yw cynllunio o blaid y Gymraeg yn rhan o'ch swydd mewn unrhyw fodd, mae CIC yno i chi.