Bwriad prosiect Lleisiau Lleol Conwy – a ariennir gan Y Loteri Fawr – yw grymuso, cefnogi a hyfforddi pobl i fod yn hyderus wrth ddweud eu dweud am faterion sy'n eu poeni ac sy'n effeithio ar eu bywydau – gan gynnwys y Gymraeg.


                               

Mae'r prosiect yn dwyn tîm o weithwyr at ei gilydd o fudiadau amrywiol er mwyn “...galluogi, annog a chynnal pobl o gymunedau yng Nghonwy ...i gyflwyno'u syniadau ar gyfer creu newid a dylanwadu ar natur gwasanaethau yn Sir Conwy at y dyfodol.”

Lansiwyd Lleisiau Lleol Conwy ym mis Ebrill 2013 ac mae Estyn Llaw yn falch o fedru cydweithio gyda Gingerbread; NWAAA; Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru a chlwstwr o gymdeithasau tai yn yr ardal dan arweiniad Chefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy (CVSC).

Ym mis Gorffennaf 2013, penodwyd Ffion Alun i weithio yn yr ardal i gynnig cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant i'r mudiadau hynny am y Gymraeg a sut i ddatblygu'r gwasanaethau Cymraeg a dwyieithog sydd ar gael i ddefnyddwyr yn lleol. Mae wedi bod yn brysur iawn yn gweithio gyda mudiadau megis Jigsaw, Age Concern, Hafal, Alzheimer's Society, Diverse Cymru. Mae hefyd yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal sy'n siaradwyr Cymraeg, yn casglu eu profiadau ac yn defnyddio'r rheiny i lunio rhaglen hyfforddi, ac i ddylanwadu ar y broses o ddatblygu a chryfhau gwasanaethau cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.

Am fwy o wybodaeth am y prosiect yma gallwch gysylltu gyda Ffion neu Siwan ar ymhol@estynllaw.org neu gallwch fwrw draw i wefan Estyn Llaw .