Un o brosiectau diweddaraf IAITH yw’r prosiect ‘Cynyddu Dilyniant’ sydd yn digwydd o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Enillodd IAITH dendr i weithredu’r prosiect ym mis Rhagfyr 2014 a dechreuwyd ar y gwaith o redeg y prosiect ym mis Ionawr 2015.


                                                    

Bwriad y prosiect yw ymgysylltu gyda disgyblion iau, sef blynyddoedd 9 a 10 yn bennaf, er mwyn ceisio sicrhau bod y niferoedd o ddisgyblion sy’n ystyried astudio addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg yn cynyddu yn yr ardaloedd o dan sylw. Bydd y gwaith hwn hefyd yn ymwneud rhywfaint ag athrawon a rhieni.

Mae dwy ysgol yn dod dan adain IAITH ar y prosiect hwn sef Ysgol Gyfun Maes y Gwendraeth ac Ysgol Gyfun y Strade.  Mae’r prosiect ar waith hefyd yng Ngwynedd dan ofal Sgiliaith ac yn Rhondda Cynon Taf dan ofal Urdd Gobaith Cymru.

Prif fwriad y prosiect yw amlygu’r manteision o gynnal sgiliau Cymraeg rhugl. Yn ystod bywyd y prosiect (hyd at Orffennaf 2016) bydd Siwan Tomos a Linda Evans o IAITH yn gweithredu nifer o weithgareddau i hyrwyddo nod ac amcanion y cynllun. Bydd y rhain yn cynnwys digwyddiadau hyrwyddo, sesiynau addysg a hyfforddiant ac ymarferiadau marchnata.

Hyd yma mae’r gweithgareddau wedi cynnwys ymweliadau a chyflwyniadau yn ystod sesiynau ABCh y disgyblion, presenoldeb mewn nosweithiau rhieni a chynnal stondin mewn digwyddiadau o bwys.

Bydd y prosiect hefyd yn gweithio gyda disgyblion y ddwy ysgol y tu allan i awyrgylch y dosbarth a’r ysgol mewn clybiau ieuenctid, gweithgareddau hamdden a chyrsiau preswyl. Bydd y gwaith yma yn digwydd gyda chefnogaeth partneriaid lleol sy’n gweithio yn y maes ieuenctid.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r prosiect hwn cysylltwch â Siwan Tomos ar 01239 711668.