Diweddarwyd  24 Mai 2018

Cafodd cynnwys y Telerau ac Amodau hyn eu gwirio a’u diweddaru i gydymffurfio â gofynion y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) sy’n weithredol o 25 Mai 2018.

Mae’r telerau a’r amodau hyn yn rheoli eich defnydd o’r wefan hon; drwy ddefnyddio’r wefan rydych yn derbyn y telerau a’r amodau hyn yn llawn. Os ydych yn anghytuno â’r telerau a’r amodau neu unrhyw ran o’r telerau a’r amodau, rhaid i chi beidio â defnyddio’r wefan.


Trwydded i ddefnyddio’r wefan

Oni nodir yn wahanol, Iaith a/neu drwyddedwyr Iaith sy’n berchen ar yr hawliau eiddo deallusol yn y wefan a’r deunydd sydd ar y wefan. Yn amodol ar y drwydded isod, cedwir yr holl hawliau eiddo deallusol hyn.

Cewch edrych ar dudalennau’r wefan, dogfennau pdf a fideos ar ein gwefan, eu lawrlwytho at ddibenion storio dros dro’n unig a’u hargraffu at eich defnydd personol, yn amodol ar y cyfyngiadau a nodir isod ac mewn mannau eraill yn y telerau a’r amodau hyn.

Rhaid i chi beidio ag:

  • ailgyhoeddi deunydd o’r wefan hon (a rhaid i chi beidio â’i ailgyhoeddi ar wefan arall);
  • gwerthu deunydd o’r wefan, ei osod ar rent neu’i is-drwyddedu;
  • dangos unrhyw ddeunydd o’r wefan yn gyhoeddus;
  • atgynhyrchu unrhyw ddeunydd sydd ar y wefan hon, ei ddyblygu, ei gopïo neu’i ddefnyddio fel arall at ddiben masnachol;
  • golygu unrhyw ddeunydd sydd ar y wefan hon neu’i addasu fel arall; nac
  • ailddosbarthu deunydd o’r wefan hon [ac eithrio unrhyw gynnwys a ddarparwyd yn benodol ac yn unswydd er mwyn ei ailddosbarthu].

Os caiff cynnwys ei ddarparu’n benodol er mwyn ei ailddosbarthu, dim ond oddi mewn i’ch sefydliad y cewch ei ailddosbarthu oni bai y cytunir yn wahanol gyda Iaith..

Defnydd derbyniol

Rhaid i chi beidio â defnyddio’r wefan hon mewn unrhyw fodd sy’n achosi, neu a allai achosi, difrod i’r wefan neu sy’n amharu, neu a allai amharu, ar y graddau y mae’r wefan ar gael ac yn hygyrch i eraill. Yn ogystal, rhaid i chi beidio â defnyddio’r wefan hon mewn unrhyw fodd sy’n anghyfreithlon, yn dwyllodrus neu’n niweidiol, neu mewn cysylltiad ag unrhyw ddiben neu weithgarwch anghyfreithlon, twyllodrus neu niweidiol.

Rhaid i chi beidio â defnyddio’r wefan hon i gopïo, storio, lletya, trosglwyddo, anfon, defnyddio, cyhoeddi neu ddosbarthu unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys (neu sy’n gysylltiedig ag) ysbïwedd, firws cyfrifiadurol, ceffyl Caerdroea, mwydyn, cofnodwr trawiadau bysellau, gwreiddwedd neu feddalwedd cyfrifiadurol maleisus arall.

Rhaid i chi beidio â chyflawni unrhyw weithgareddau casglu data systematig neu awtomataidd naill ai ar y wefan hon neu mewn perthynas â’r wefan hon (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, cribinio gwybodaeth, cloddio data, echdynnu data a chynaeafu data) oni bai eich bod wedi cael caniatâd ysgrifenedig pendant gan Iaith i wneud hynny.

Rhaid i chi beidio â defnyddio’r wefan hon i drosglwyddo neu anfon negeseuon masnachol digymell.

Rhaid i chi beidio â defnyddio’r wefan hon at unrhyw ddibenion sy’n ymwneud â marchnata oni bai eich bod wedi cael caniatâd ysgrifenedig pendant gan Iaith i wneud hynny.

Cofrestru i ddefnyddio gwasanaethau Iaith

Er mwyn ichi allu defnyddio rhai o’r gwasanaethau sydd ar wefan Iaith, mae’n rhaid i chi gofrestru. Yn  benodol, golyga hyn: i) gofrestru ar gyfer derbyn cylchlythyrau (gwybodaeth am newyddion, digwyddiadau a hyfforddiant Iaith) ar ffurf e-byst; a ii) chofrestru i ddod yn Aelod o’r Ganolfan Cynllunio Iaith ac/neu Cynllunwyr Iaith Cymru). Yn ystod y broses gofrestru, byddwn yn gofyn i chi am rai manylion personol megis enw a chyfeiriad e-bost. Caiff yr holl wybodaeth bersonol a gesglir wrth ichi gofrestru’n wirfoddol er mwyn defnyddio gwasanaethau rhyngweithiol Iaith ei ddefnyddio er mwyn ichi gael mynediad at y gwasanaethau hyn ac i’n galluogi i gysylltu â chi ynghylch diweddariadau i’r gwasanaethau hynny’n unig. Mae’r holl fanylion a gyflwynir yn gwbl gyfrinachol ac nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol i unrhyw un arall. Cewch rhagor o fanylion yn ei Polisi Preifatrwydd.

Defnyddio cyfryngau cymdeithasol Iaith

Gellid dilyn Iaith ar Twitter a Facebook. Rhaid i chi gadw at reolau'r sianeli hyn. Mae'r mathau canlynol o ymholiadau a sylwadau yn groes i’n rheolau cyffredinol ni ac ni fyddwn yn ymateb iddynt ar unrhyw un o'n sianeli.

  • cwestiynau na ellir eu hateb drwy wybodaeth gyhoeddus (caiff y cwestiynau hyn, gan gynnwys ceisiadau posibl o ran Rhyddid Gwybodaeth, eu hateb all-lein a’u hailgyfeirio lle bo angen)
  • sylwadau ar rinweddau unrhyw hyfforddiant, prosiect neu ddigwyddiad
  • sylwadau personol at staff, cyfarwyddwyr ac ymgynghorwyr
  • sylwadau sarhaus neu sylwadau sy'n hiliol, yn rhywiaethol, yn homoffobig, yn rhywiol neu'n annymunol mewn ffordd arall
  • sylwadau neu gwestiynau rhethregol, neu’r rheini sydd wedi’u hawtogynhyrchu

Rydym yn cadw'r hawl i ddileu neu ofyn am ddileu unrhyw gyfraniadau ar unrhyw un o'n sianeli sy'n torri rheolau'r gymuned berthnasol neu'r rheolau uchod.  Rydym hefyd yn cadw'r hawl i ddileu negeseuon defnyddwyr sy'n:

  • cymryd rhan mewn "spamio" drwy bostio'r un neges, neu neges debyg, fwy nag unwaith
  • postio cynnwys sy’n nad yw’n berthnasol i’r pwnc sy’n cael ei drafod nac i’r sianel dan sylw
  • hysbysebu cynhyrchion neu wasanaethau masnachol
  • cynnwys dolenni i gynnwys nad yw'n addas ar gyfer cynulleidfa gyffredinol
  • postio cynnwys a gopïwyd o rywle arall nad ydynt yn berchen ar yr hawlfraint ar ei gyfer
  • cyhoeddi gwybodaeth bersonol unrhyw un
  • dynwared person arall neu honni ar gam eu bod yn cynrychioli person neu sefydliad arall.

Os bydd defnyddiwr yn torri rheolau'r cyfryngau'r cymdeithasol, neu'n methu â chadw at y canllawiau uchod, rydym yn cadw'r hawl i’w gwahardd rhag postio ar ein sianeli.

Dim warantïau

Caiff y wefan hon ei darparu “fel y mae” heb unrhyw gynrychiolaeth na warantî, boed yn ddatganedig neu’n oblygedig. Nid yw [ENW] yn cynnig unrhyw gynrychiolaeth na warantî mewn perthynas â’r wefan hon na’r wybodaeth a’r deunyddiau a ddarperir ar y wefan.

Heb leihau effaith natur gyffredinol y paragraff blaenorol, nid yw Iaith yn gwarantu:

y bydd y wefan hon ar gael yn gyson, neu ar gael o gwbl;

bod y wybodaeth ar y wefan yn gyflawn, yn wir neu’n gywir neu’n wybodaeth nad yw’n gamarweiniol.

Nid oes dim, neu ni fwriedir i ddim, ar y wefan hon fod yn gyngor o unrhyw fath. [Os oes angen cyngor arnoch ynghylch unrhyw fater [cyfreithiol, ariannol neu feddygol] dylech siarad â gweithiwr proffesiynol priodol.]

Cyfyngiadau ar atebolrwydd

Ni fydd Iaith yn atebol i chi (boed dan gyfraith contract, cyfraith camweddau neu fel arall) o safbwynt cynnwys y wefan hon, y defnydd a wneir ohoni, neu unrhyw fater arall sy’n ymwneud â hi:

am unrhyw golled uniongyrchol, i’r graddau y caiff y wefan ei darparu’n rhad ac am ddim;

am unrhyw golled anuniongyrchol, arbennig neu ganlyniadol; neu

am unrhyw achosion o golli busnes, colli refeniw, incwm, elw neu arbedion disgwyliedig, colli contractau neu gydberthnasau busnes, colli enw da neu ewyllys da, neu golli neu lygru gwybodaeth neu ddata.

Bydd y cyfyngiadau hyn ar atebolrwydd yn berthnasol hyd yn oed os yw Iaith wedi cael gwybod yn benodol am y golled bosibl

Eithriadau

Ni fydd dim yn yr ymwadiad hwn ar gyfer gwefan yn eithrio unrhyw warantî neu’n cyfyngu ar unrhyw warantî sy’n oblygedig mewn cyfraith, y byddai’n anghyfreithlon ei eithrio neu gyfyngu arno; ac ni fydd dim yn yr ymwadiad hwn ar gyfer gwefan yn eithrio atebolrwydd neu’n cyfyngu ar atebolrwydd Iaith yng nghyswllt unrhyw:

farwolaeth neu niwed personol a achosir gan esgeulustod Iaith;

achos o dwyllo neu gamliwio twyllodrus gan Iaith; neu

fater y byddai’n anghyfreithlon i Iaith eithrio ei atebolrwydd neu gyfyngu arno, neu geisio neu awgrymu eithrio ei atebolrwydd neu gyfyngu arno.

Rhesymolrwydd

Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno bod yr eithriadau a’r cyfyngiadau ar atebolrwydd a nodir yn yr ymwadiad hwn ar gyfer gwefan yn rhesymol.

Os nad ydych o’r farn eu bod yn rhesymol, rhaid i chi beidio â defnyddio’r wefan.

Partïon eraill

Rydych yn derbyn bod gan Iaith, fel endid ag atebolrwydd cyfyngedig, fudd mewn cyfyngu atebolrwydd personol ei swyddogion a’i weithwyr. Rydych yn cytuno na fyddwch yn dwyn unrhyw hawliad yn bersonol yn erbyn swyddogion neu weithwyr Iaith yng nghyswllt unrhyw golledion y byddwch yn eu dioddef mewn perthynas â’r wefan.

Heb leihau effaith y paragraff blaenorol, rydych yn cytuno y bydd y cyfyngiadau ar warantïau ac atebolrwydd a nodir yn yr ymwadiad hwn ar gyfer gwefan yn diogelu swyddogion, gweithwyr, asiantiaid, is-gwmnïau, olynwyr, aseineion ac is-gontractwyr Iaith yn ogystal ag Iaith ei hun.

Darpariaethau na ellir eu gorfodi

Os bydd neu os gwelir bod unrhyw un o ddarpariaethau’r ymwadiad hwn ar gyfer gwefan yn ddarpariaeth na ellir ei gorfodi dan y gyfraith berthnasol, ni fydd hynny’n effeithio ar y gallu i orfodi’r darpariaethau eraill sy’n perthyn i’r ymwadiad hwn ar gyfer gwefan.

Indemniad

Rydych gan hynny’n indemnio Iaith ac yn ymrwymo i barhau i indemnio Iaith rhag unrhyw golledion, iawndal, costau, rhwymedigaethau a threuliau (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, unrhyw dreuliau cyfreithiol ac unrhyw symiau a delir gan Iaith i drydydd parti er mwyn datrys hawliad neu anghydfod yn dilyn cyngor gan ymgynghorwyr cyfreithiol Iaith) yr aeth Iaith iddynt neu a ddioddefodd Iaith, ac a gododd oherwydd eich bod chi wedi torri un o ddarpariaethau’r telerau a’r amodau hyn neu a gododd o unrhyw honiad eich bod chi wedi torri un o ddarpariaethau’r telerau a’r amodau hyn.

Achosion o dorri’r telerau a’r amodau hyn

Heb niweidio hawliau eraill Iaith dan y telerau a’r amodau hyn, os byddwch yn torri’r telerau a’r amodau hyn mewn unrhyw fodd gall Iaith gymryd pa gam bynnag y bydd yn ei ystyried yn briodol er mwyn ymdrin â hynny, gan gynnwys eich atal dros dro rhag cael mynediad i’r wefan, eich gwahardd rhag cael mynediad i’r wefan, blocio cyfrifiaduron sy’n defnyddio eich cyfeiriad IP rhag cael mynediad i’r wefan, cysylltu â’ch darparwr gwasanaethau rhyngrwyd i ofyn iddo flocio eich mynediad i’r wefan a/neu ddwyn achos llys yn eich erbyn.

Amrywiad

Gall Iaith ddiwygio’r telerau a’r amodau hyn o bryd i’w gilydd. Bydd y telerau a’r amodau a ddiwygiwyd yn berthnasol i’r defnydd a wneir o’r wefan hon o’r dyddiad y caiff y telerau a’r amodau diwygiedig eu cyhoeddi ar y wefan. Dylech ymweld â’r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r fersiwn gyfredol.

Aseinio

Gall Iaith drosglwyddo, is-gontractio neu ymdrin fel arall â hawliau a/neu rwymedigaethau Iaith dan y telerau a’r amodau hyn heb eich hysbysu neu heb gael eich caniatâd.

Ni chewch chi drosglwyddo, is-gontractio neu ymdrin fel arall â’ch hawliau a/neu’ch rhwymedigaethau chi dan y telerau a’r amodau hyn.

Natur doradwy

Os bydd unrhyw lys neu awdurdod cymwys arall yn penderfynu bod un o ddarpariaethau’r telerau a’r amodau hyn yn anghyfreithlon neu’n anorfodadwy, bydd y darpariaethau eraill yn parhau i fod mewn grym. Pe bai unrhyw ddarpariaeth anghyfreithlon a/neu anorfodadwy yn gyfreithlon neu’n orfodadwy pe bai rhan ohoni’n cael ei dileu, bernir y bydd y rhan honno wedi’i dileu a bydd gweddill y ddarpariaeth yn parhau mewn grym.

Cytundeb cyfan

Y telerau a’r amodau hyn [, ynghyd â [DOGFENNAU],] yw’r cytundeb cyfan rhyngoch chi ac Iaith yng nghyswllt eich defnydd o’r wefan hon, ac maent yn disodli pob cytundeb blaenorol ynghylch eich defnydd o’r wefan.

Cyfraith ac awdurdodaeth

Bydd y telerau a’r amodau hyn yn cael eu rheoli gan lysoedd Cymru a Lloegr a byddant yn cael eu dehongli’n unol â nhw, a bydd unrhyw anghydfodau sy’n ymwneud â’r telerau a’r amodau hyn yn ddarostynedig i awdurdod neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr..

Manylion Iaith

Mae Iaith wedi’i gofrestru yng Nghymru dan y rhif cofrestru canlynol: 2803324.

Cyfeiriad cofrestredig Iaith yw Uned 3, Parc Busnes Aberarad, Castellnewydd Emlyn, Sir Gâr, SA38 9DB.

Gallwch gysylltu ag Iaith drwy e-bost: post@iaith.eu.