Academi IAITH yw gwasanaeth hyfforddi IAITH. Darperir cyrsiau amrywiol mewn agweddau o bolisi a chynllunio iaith. Darperir rhaglen o gyrsiau achlysurol yn ogystal â bwydlen o gyrsiau a ellid eu darparu i gleientiaid yn uniongyrchol.
Cyrsiau pwrpasol i chi:
Yn ogystal â darparu Rhaglen Hyfforddiant, gall IAITH ddod atoch chi i ddarparu sesiynau hyfforddi yn y man gwaith i gwrdd â'ch anghenion. Dros y blynyddoedd, mae'r Ganolfan wedi datblygu cryn brofiad ac arbenigedd yn y meysydd canlynol:
Cyrsiau yn ymwned â'r Safonau Iaith
Cyrsiau Academaidd
Cynllunio Iaith a'r Sefydliad a Gweithredu'r Safonau Iaith
- Rheoli Adnoddau Dynol a'r Gymraeg – recriwtio, penodi, anwytho, cefnogi
- Rheoli yn Gymraeg: codi hyder rheolwyr Cymraeg yn eu sgiliau iaith
- Caffael a'r Gymraeg: grantiau a chytundebau 3ydd parti
- Iaith, Gofal ac Urddas - Gweithdai 'Mwy na Geiriau' (Gofal a Iechyd)
- Hyrwyddo'r iaith yn eich sefydliad
- Cadeirio Cyfarfodydd Dwyieithog
- Gweithio gyda Chyfieithwyr
- Trefnu digwyddiad dwyieithog
- Creu Cynllun 5 mlynedd
- Gweithdrefnau Cwyno a Disgyblu
- Creu Strategaeth Sgiliau Iaith
- Hunaniaeth Gorfforaethol
Ymwybyddiaeth Iaith
- Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith: gweithdy diwrnod neu sesiwn hanner diwrnod
- Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith - Hyfforddi'r Hyfforddwyr (cwrs 3 diwrnod)
- Ymwybyddiaeth iaith a chwrteisi ieithyddol sylfaenol
- Ymwybyddiaeth iaith a gloywi iaith
Datblygu Cymunedol
- Gweithredu'n lleol: hyrwyddo'r Gymraeg yn y gymuned
- Hyrwyddo'r Gymraeg ymhlith teuluoedd
- Agor Dau Ddrws: datblygu gwaith ieuenctid dwyieithog
- Datblygu dwyieithrwydd yn y trydydd sector
- Ymgysylltu â chymunedau
Amrywiol
- Gloywi Iaith
- Cyflwyno'r Gymraeg a Chwrteisi Ieithyddol Sylfaenol [link]
- Cymraeg bob dydd [link]
- TG a'r Gymraeg
- Datblygu'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
Os hoffech gomisiynu'r Ganolfan i ddarparu un o'r cyrsiau uchod, cysylltwch a Siwan Tomos ar 01745 222 052 i drafod ymhellach neu anfonwch e-bost at post@iaith.eu
Yn ychwanegol at y cyrsiau uchod gall IAITH gynllunio hyfforddiant neu ddatblygu adnoddau hyfforddi wedi eu teilwra'n benodol ar gyfer eich anghenion chi ar unrhyw agwedd ar ddatblygu dwyieithrwydd a hyrwyddo'r Gymraeg.