Normaleiddio a chryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn y sector Iechyd a Gofal
Dyddiad: | 22 May - 22 May |
Lleoliad: | Rhithiol |
Hyfforddwr: | Bethan Williams |
Tâl: | £200 + TAW |
Amser: | 9:30 am - 11:30 am |
Diwrnod 1 - 22ain o Fai, 9:30 - 12:30
Diwrnod 2 - 26ain o Fehefin, 9:30 - 12:30
Cwrs ar gyfer siaradwyr Cymraeg
Deilliannau dysgu
Bydd cyfle i drafod:
- Pryd ydyn ni’n defnyddio Cymraeg a phryd a pham ydyn ni’n troi at y Saesneg
- Beth sy’n gwneud hi’n anodd defnyddio’r Gymraeg a beth yw’r heriau
- Syniadau ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn gadarn
- Creu cynllun i gynyddu defnydd personol o’r Gymraeg
Cynnwys y sesiynau - Dwy sesiwn 2 awr o hyd
Sesiwn 1 : Cyflwyniad i Gadernid Iaith ac adnabod sefyllfaoedd anodd
- Archwilio gwahanol broffiliau siaradwyr
- Gwerthfawrogi strwythurau ieithyddol-cymdeithasol
- Deall dewis a newid ieithyddol
- Adnabod a myfyrio ar sefyllfaoedd anodd
- Llunio cynllun gweithredu personol
Sesiwn 2 : Gweithredu a gwerthuso ein Cadernid Iaith
- Gwerthuso’r cynllun gweithredu personol
- Atgyfnerthu’r dealltwriaeth o Gadernid Iaith
- Ail-fframio ffactorau negyddol ieithyddol-cymdeithasol
- Ymarfer cadernid rhagweithiol, trafod negeseuon a dygymod â heriau
- Mabwysiadu ymagwedd strategol i Gadernid Iaith
Gallwch gael mwy o wybodaeth am ein hyfforddiant drwy gysylltu gyda Bethan Williams , Rheolwr Addysg a Hyfforddiant IAITH.