Cadeirio Cyfarfodydd Dwyieithog


Dyddiad: 08 December - 08 December
Lleoliad: Canolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg
Hyfforddwr: Siwan Tomos
Tâl: £85/£70 i aelodau IAITH (+TAW)
Amser: 9:30 am - 12:30 pm

Nod

Nod yr hyfforddiant yma yw codi hyder unigolion sy’n cadeirio cyfarfodydd i ddefnyddio’r ddwy iaith wrth gadeirio a’u galluogi i greu awyrgylch ddiogel sy’n caniatáu i siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg gyfrannu yn eu dewis iaith.

Ar gyfer pwy?

  • Gweithwyr sy’n dymuno datblygu eu sgiliau cadeirio’n ddwyieithog
  • Hwyluswyr grwpiau/sesiynau
  • Unigolion sydd yn cadeirio cyfarfodydd yn achlysurol neu yn cyfrannu i gyfarfodydd
  • Unigolion o’r sector gyhoeddus, preifat a gwirfoddol

Cynnwys

Bydd hyfforddeion yn:

  • Derbyn cyflwyniad i ymwybyddiaeth iaith sylfaenol
  • Trafod arwyddocâd cadeirio’n ddwyieithog a’r dulliau o fynd ati i ddarparu sesiynau dwyieithog
  • Derbyn gwybodaeth ar yr arfau sydd ar gael i gefnogi cadeiryddion i weithio’n ddwyieithog.
  • Adnabod heriau a gofidiau
  • Edrych ar dechnegau a fydd yn caniatáur cadeiryddion i gynllunio cyfarfodydd bywiog a chynhwysol.
  • Adnabod a rhannu enghreifftiau o arfer dda

Deilliannau Dysgu

Bydd y sawl sy’n dilyn y cwrs  yn caffael gwybodaeth a sgiliau i’w cefnogi i:

  • Ddarparu sesiynau dwyieithog sy’n addas ar gyfer grwpiau cymysg o ran iaith
  • Sefydlu awyrgylch ddiogel yn y cyfarfod i i unigolion gyfrannu yn eu dewis iaith
  • Ddefnyddio arfau sy’n eu cefnogi i hwyluso cyfarfodydd dwyieithog 

Hyfforddwr

Siwan Tomos yw Cyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant IAITH. Daeth Siwan at IAITH ar ddiwedd 2011 gyda chefndir fel gweithiwr ieuenctid a chymuned. Siwan sy'n gyfrifol am brosiectau cynllunio iaith cymunedol y cwmni. Mae hefyd yn hyfforddwraig brofiadol ac wedi darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i lu o fudiadau a sefydliadau yng Nghymru yn cynnwys Y Cynulliad Cenedlaethol, Cyngor Sir Ceredigion, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, Opera Cenedlaethol Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Mae Siwan hefyd yn cyfrannu at waith ymchwil a datblygu maes cymunedol IAITH: y ganolfan cynllunio iaith. siwan.tomos@iaith.eu

Rhaglen