Cyflwyniad i RBA
Dyddiad: | 26 June - 26 June |
Lleoliad: | Llanewly |
Hyfforddwr: | Gareth Ioan |
Tâl: | £75 + TAW (£65 + TAW i aelodau IAITH) |
Amser: | 9:00 am - 13:00 pm |
Bydd y sesiwn fer hon yn gyfle i dderbyn gwybodaeth ddechreuol am y dull Atebolrwydd Seiliedig ar Ganlyniadau (RBA) a ddefnyddir yn helaeth gan asiantaethau cyhoeddus i fesur perfformiad rhaglenni a gwasanaethau. Bydd yn gyfle i ymgyfarwyddo gyda’r egwyddorion sylfaenol, y dull a’r derminoleg. Bydd hefyd yn gyfle i berthnasu’r ymagwedd at eich maes gwaith chi. Anelir yn bennaf at reolwyr yn y maes polisi a chynllunio iaith ond mae croeso mawr i eraill.