Cymraeg ar y Cyfrifiadur
Dyddiad: | 08 December - 08 December |
Lleoliad: | Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor |
Hyfforddwr: | Dr Llion Jones |
Tâl: | £85 + TAW / £70 + TAW aelodau IAITH |
Amser: | 9:00 am - 13:00 pm |
Nod
Nod yr hyfforddiant yw darparu cyflwyniad ymarferol i adnoddau cyfrifiadurol sydd ar gael i hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ar y cyfrifiadur.
Ar gyfer pwy: Mae’r cwrs yma ar gyfer:
- Unigolion sydd yn defnyddio’r Gymraeg yn ei gwaith o ddydd i ddydd;
- Unigolion sydd yn newydd i weithle dwyieithog/Cymraeg sydd yn dymuno defnyddio’r Gymraeg ar y cyfrifiadur.
Cynnwys:
Cyflwyniad ymarferol i’r adnoddau cyfrifiadurol sydd ar gael i hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Mae'r gweithdy hwn yn cwmpasu:
- Cysgliad
- To Bach
- Offer gwirio
- Microsoft
- Adnoddau geiriadurol electronig ac
- Adnoddau terminoleg
Deilliannau Dysgu:
Bydd y sawl sy’n dilyn y cwrs yn dysgu:
- beth sydd ar gael i’w cefnogi i ddefnyddio’r Gymraeg ar y cyfrifiadur
- sut i ddefnyddio’r adnoddau
- sut i gael gafael ar yr adnoddau er mwyn eu rhannu yn eu gweithleoedd.
Darparwr:
Canolfan Bedwyr
Canolfan Bedwyr yw canolfan ragoriaeth Prifysgol Bangor ar gyfer gwasanaethau, ymchwil a thechnoleg Cymraeg. Yn ogystal â’i gwaith craidd yn cefnogi a hwyluso defnydd o’r Gymraeg yn y brifysgol ei hun, mae’r ganolfan hefyd yn darparu hyfforddiant allanol ac yn datblygu adnoddau ar gyfer y Gymraeg.
Mae'r ganolfan yn gyfrifol am Cysgliad, pecyn sy’n cynnwys meddalwedd gwirio iaith a gramadeg a chasgliad o eiriaduron electronig cynhwysfawr.