Diwrnod 1/3: Hyfforddi’r Hyfforddwyr


Dyddiad: 09 May - 09 May
Lleoliad: Castell Newydd Emlyn
Hyfforddwr: Siwan Tomos
Tâl: £375 + TAW (£325 + TAW i aelodau) Mae'r pris yma yn cynnwys 3 diwrnod o hyfforddiant.
Amser: 10:00 am - 16:30 pm

Nod yr hyfforddiant cyfrwng Cymraeg hwn yw cynnig cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau i fedru darparu sesiynau hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith ar gyfer amrywiaeth o asiantaethau a sefydliadau yng Nghymru.

Mae cyfle i ddiffinio'r maes a chadarnhau'r sylfaen wybodaeth sydd ei hangen. Mae hynny'n cynnwys deddfwriaeth a pholisi; y Gymraeg a'r cydraddoldebau; hanes, demograffi a dwyieithrwydd. Ceir cyfle hefyd i ddatblygu sgiliau hyfforddi trwy ystyried sut mae oedolion yn dysgu; pa dechnegau y gellir eu defnyddio a sut mae cynllunio sesiwn hyfforddi fywiog.

Anelir y cwrs at bobl sy'n awyddus i ddysgu am faes ymwybyddiaeth iaith ac sydd naill ai'n hyfforddi yn rhan o'u gwaith bob dydd neu sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau hyfforddi. Mae'n addas ar gyfer swyddogion yn y sector cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat.

Rhaglen