Dwyieithrwydd: Yr Achos Busnes
Dyddiad: | 24 January - 24 January |
Lleoliad: | Pafiliwn Llangollen |
Hyfforddwr: | Siwan Tomos a Ffion Alun |
Tâl: | Am ddim |
Amser: | 8:15 am - 9:30 am |
Mae prosiect Y Gymraeg mewn Busnes sy’n cael ei redeg gan IAITH: y ganolfan cynllunio iaith ac yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Dinbych yn bwriadu rhedeg cyfres o weithdai i gefnogi busnesau i weithio’n ddwyieithog. Bydd y gweithdai yn gweithio’n benodol i godi ymwybyddiaeth, sgiliau a hyder busnesau i ddefnyddio’r Gymraeg gyda chwsmeriaid er mwyn eu denu yn ôl dro ar ôl tro.
Dyma sesiwn ar gyfer perchnogion a rheolwyr busnesau.
Bydd y busnesau yn:
- Derbyn cyflwyniad i ymwybyddiaeth iaith
- Dysgu mewn awyrgylch ddiogel
- Dysgu am arfer dda
- Cael mynediad at adnoddau
- Dysgu sut i gymhwyso’r wybodaeth i’w gwaith bob dydd
- Rhwydweithio gyda busnesau eraill o’r dref
Os oes gennych chi neu aelod o’ch staff ddiddordeb mynychu rhai o’r sesiynau uchod mae croeso mawr i chi gysylltu ar siwan.tomos@iaith.eu neu 01745 222052. Rydym yn gofyn yn garedig i bawb gofrestru eu diddordeb cyn dod i un o’r gweithdai.
Bydd lluniaeth ysgafn a chroeso cynnes yn eich disgwyl.