Gloywi Iaith
Dyddiad: | 22 January - 22 January |
Lleoliad: | Lampeter |
Hyfforddwr: | Elaine Davies a Siwan Tomos |
Tâl: | £175 + TAW, £145 + TAW i aeloedau IAITH |
Amser: | 9:30 am - 16:30 pm |
Nod y cwrs:
Ysgrifennu Cymraeg yn fwy hyderus, clir a chywir.
Amcanion y cwrs:
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi cael cyfle i:
- Adolygu nifer o reolau gramadeg
- Rhoi prawf ar eich sgiliau ysgrifennu
- Cymhwyso'r wybodaeth ar gyfer eich gwaith bob dydd a chynhyrchu darnau ysgrifenedig rydych yn falch ohonynt.
Mae'r cwrs yn cynnwys nifer o agweddau, er enghraifft,
- Defnyddio geiriadur yn effeithiol
- Y treigladau
- Yr arddodiaid a'r fannod
- Dyblu'r 'n'
- Ysgrifennu Cymraeg clir
- Gwirio dogfennau gyda chymorth electronig
Caiff yr hyfforddiant ei seilio ar gyfres o weithgareddau ymarferol sy'n help i fagu hyder a chynyddu sgiliau.