Gloywi Iaith
Dyddiad: | 20 November - 20 November |
Lleoliad: | Chapter, Caerdydd |
Hyfforddwr: | Meirion Prys Jones |
Tâl: | £155+TAW |
Amser: | 10:00 am - 16:00 pm |
Nod y cwrs:
Ysgrifennu Cymraeg yn fwy hyderus, clir a chywir.
Amcanion y cwrs:
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi cael cyfle i:
Adolygu nifer o reolau gramadeg
Rhoi prawf ar eich sgiliau ysgrifennu
Cymhwyso'r wybodaeth ar gyfer eich gwaith bob dydd a chynhyrchu darnau ysgrifenedig rydych yn falch ohonynt.
Mae'r cwrs yn cynnwys nifer o agweddau, er enghraifft,
Defnyddio geiriadur yn effeithiol
Y treigladau
Yr arddodiaid a'r fannod
Dyblu'r 'n'
Ysgrifennu Cymraeg clir
Gwirio dogfennau gyda chymorth electronig
Caiff yr hyfforddiant ei seilio ar gyfres o weithgareddau ymarferol sy'n help i fagu hyder a chynyddu sgiliau.