Gweithio mewn sefydliad dwyieithog


Dyddiad: 14 June - 14 June
Lleoliad: Caerdydd
Hyfforddwr: Siwan Tomos
Tâl: £155+TAW (£125 + TAW i aelodau IAITH)
Amser: 10:00 am - 16:00 pm

Nod

Nod y gweithdy yw meithrin hyder a sgiliau staff sy’n siarad Cymraeg neu yn dysgu Cymraeg i ddatblygu sgiliau gweithio’n ddwyieithog a chefnogi eu defnydd o’r Gymraeg wrth eu gwaith.

Bydd mynychwyr yn:

  • Derbyn gwybodaeth am gefndir y Gymraeg, yn enwedig yng nghyswllt y gweithle
  • Cael cyfle i ystyried agweddau megis hyder, hyfedredd a chyweiriau iaith
  • Cael cyfle i ymgyfarwyddo â geirfa a thermau perthnasol
  • Cael cyfle i ystyried defnydd iaith mewn sefyllfaoedd a chyd-destunau gwaith amrywiol e.e. cyfieithu o ddydd i ddydd, cadeirio cyfarfodydd, defnyddio rhwydweithiau dwyieithog
  • Cael cyfle i drafod pryderon a rhwystrau
  • Derbyn gwybodaeth am gymhorthion iaith defnyddiol

Cynulleidfa 

Mae'r gweithdy yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio mewn sefydliad dwyieithog sy'n dymuno defnyddio mwy o Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd. 

Bydd y cwrs yma yn cael ei gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg.

Hwylusydd 

Siwan Tomos yw Cyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant IAITH: y ganolfan cynllunio iaith. Ymunodd Siwan â'r tim ar ddiwedd 2011 gan ddod o gefndir gwaith ieuenctid. Hi sy'n arwain ar brosiectau cymunedol y cwmni. Mae hefyd yn hyfforddwraig brofiadol ac wedi darparu pob math o sesiynau hyfforddiant yn ymwneud ag ymwybyddiaeth iaith i lu o sefydliadau yng Nghymru. Mae'r sefydliadau yma yn cynnwys y Cynulliad, Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, Opera Cenedlaethol Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda. 

Mae hefyd yn cyfrannu i broseictau ymchwil IAITH.

Am gwestiynau penodol yn ymwneud â'r hyfforddiant cysylltwch â  siwan.tomos@iaith.eu neu 01745 222053

Rhaglen