Gweithredu’n Lleol


Dyddiad: 06 October - 06 October
Lleoliad: Aberystwyth
Hyfforddwr: Gareth Ioan
Tâl: £155 + TAW / £125 + TAW i aelodau IAITH
Amser: 10:00 am - 16:00 pm

Nod

Nod y diwrnod fydd ymgyfarwyddo gyda’r pecyn adnoddau ‘Gweithredu’ Lleol’ – fframwaith ar gyfer cynllunio iaith micro ymysg cymdogaethau Cymraeg. Mae’r pecyn, a gyhoeddwyd yn 2012, cyhoeddiad olaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ers hynny yn cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru fel patrwm ar gyfer datblygu cynlluniau gweithredu lleol o blaid y Gymraeg.

Cynnwys

Bydd myfyrwyr yn derbyn cyflwyniad i’r pecyn gan yr awdur, Gareth Ioan, a fydd yn esbonio diben a rhesymeg gwaelodol y pecyn. Bydd gareth hefyd yn cyfeirio at hanfodion cynllunio iaith ar lefel micro, egwyddorion sylfaenol datblygu cymunedol ac esiamplau o arferion da yn y maes. Bydd yna hefyd gyfle i ddechrau cynllunio ar gyfer gweithredu’n lleol a rhannu profiadau gydag eraill.

Cyfrwng

Cymraeg fydd iaith yr hyfforddi.

Hyfforddwr

Gareth Ioan yw Prif Weithredwr IAITH. Mae’n hyfforddwr profiadol, gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y maes. Mae’n arbenigo mewn dulliau o hyrwyddo iaith ar lefel y gymdogaeth leol. Bu’n aelod dylanwadol o’r felin drafod Y Ffwrwm ac yn parhau’n weithgar ar lawr gwlad ym Mro Siôn Cwilt a rhwydweithiau Cymraeg de orllewin Cymru.

Rhaglen