Gwneud y defnydd gorau o’r cyfryngau cymdeithasol
Dyddiad: | 16 March - 16 March |
Lleoliad: | Canolfan Glasdir, Llanrwst |
Hyfforddwr: | Dewi Eirig Jones |
Tâl: | £85 + TAW / £70 + TAW aelodau IAITH |
Amser: | 10:00 am - 12:00 pm |
Nod yr hyfforddiant yw cyflwyno gwybodaeth ar sut ddefnyddio gwefannau cymdeithasol er mwyn cyrraedd cynulleidfa ddigidol eang.
Ar gyfer pwy: Mae’r cwrs yma ar gyfer:
- Unigolion sydd yn dymuno gwneud defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’u gwaith
- Unigolion sydd eisiau gwella presenoldeb eu mudiad ar y gwefannau cymdeithasol
- Unigolion sydd yn dymuno gwybod mwy am wefannau cymdeithasol a sut y maent yn cael eu defnyddio i farchnata
Bydd yr hyfforddiant yma yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys:
- Mae'r gweithdy hwn yn cwmpasu:
- Beth yw cyfrwng cymdeithasol
- Beth yw gwerth defnyddio gwefannau cymdeithasol
- Beth yw gwerth masnachol gwefannau cymdeithasol
- Sut i sicrhau presenoldeb ar rwydweithiau cymdeithasol
- Sut i ymgysylltu â’r cyhoedd ar rwydweithiau cymdeithasol
- Esiamplau o arfer dda
Darparwr: Dewi Eirig Jones (Lliwiol)
Mae Dewi Eirig yn hyfforddwr ac yn ymgynghorwr profiadol sydd wedi bod yn gweithio o dan yr enw Lliwiol . Mae’n darparu hyfforddiant a gwasanaeth ymgynghori cyfryngau cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg a ’r Saesneg. Mae o hefyd yn cyfrannu at drafodaethau ar y pwnc ar Radio Cymru yn rheoliad. Mae Dewi hefyd yn llysgennad gwirfoddol gyda'r cwmni rhyngwladol Hootsuite.