Gwybodaeth i Gyflogwyr- Sesiwn Blasu
Dyddiad: | 14 December - 14 December |
Lleoliad: | Gwesty'r Copthorne, Caerdydd |
Hyfforddwr: | Siwan Tomos a Gareth Ioan |
Tâl: | Am ddim |
Amser: | 10:30 am - 12:30 pm |
Bydd y Sesiynau Blasu: Gwybodaeth i Gyflogwyr 'Cymraeg Gwaith' yn cynnwys:
- Rhoi gwybodaeth i swyddogion perthnasol am y Gwasanaeth Gwybodaeth i Gyflogwyram y Gymraeg
- Rhannu gwybodaeth am yr holl gyfleoedd sydd ar gael i chi drwy raglen Cymraeg Gwaith
- Cyfle i rannu syniadau ynglŷn ag anghenion dysgu eich gweithleoedd ar faterion yn ymwneud â'r Gymraeg a chynyddu sgiliau iaith y gweithlu
- Cyflwyniad i'r pecyn Gwybodaeth i Gyflogwyr am y Gymraeg sydd yn edrych ar yr ystod isod o bynciau:
- Cyflwyniad i’r cyd-destun polisi cyfredol;
- Gwybodaeth am yr angen i gynllunio gweithluoedd dwyieithog;
- Manteision cynyddu dwyieithrwydd sefydliadol;
- Sut i ddadansoddi anghenion sgiliau Cymraeg eich sefydliad;
- Hyfforddiant sydd ar gael i’ch helpu drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol;
- Cefnogi dysgwyr yn y gweithle, a
- Cynllunio i’r dyfodol.
Mae’r sesiynau wedi eu teilwra ar gyfer:
- Swyddogion iaith
- Swyddogion hyfforddi
- Staff AD perthnasol
- Rheolwyr