Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith - Hyfforddi’r Hyfforddwyr

Cwrs 3 diwrnod (cyfrwng Cymraeg)

Dyddiad: 22 June - 22 June
Lleoliad: Castell Newydd Emlyn
Hyfforddwr: Elaine Davies a Clare Grist
Tâl: £375 + TAW or £325 + TAW aelodau IAITH
Amser: 9:00 am - 17:00 pm

Dyddiadau:

22,23 Mehefin a 13 Gorffennaf, 2015 

Nod yr hyfforddiant cyfrwng Cymraeg hwn yw cynnig cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau i fedru darparu sesiynau hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith ar gyfer amrywiaeth o asiantaethau a sefydliadau yng Nghymru.

Mae cyfle i ddiffinio'r maes a chadarnhau'r sylfaen wybodaeth sydd ei hangen. Mae hynny'n cynnwys deddfwriaeth a pholisi; y Gymraeg a'r cydraddoldebau; hanes, demograffi a dwyieithrwydd. Ceir cyfle hefyd i ddatblygu sgiliau hyfforddi trwy ystyried sut mae oedolion yn dysgu; pa dechnegau y gellir eu defnyddio a sut mae cynllunio sesiwn hyfforddi fywiog.

Anelir y cwrs at bobl sy'n awyddus i ddysgu am faes ymwybyddiaeth iaith ac sydd naill ai'n hyfforddi yn rhan o'u gwaith bob dydd neu sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau hyfforddi. Mae'n addas ar gyfer swyddogion yn y sector cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat.

Rhaglen