Hyfforddi’n ddwyieithog


Dyddiad: 19 April - 19 April
Lleoliad: Canolfan CGGC (WCVA) Caerdydd
Hyfforddwr: Siwan Tomos
Tâl: £155 + TAW / £125 + TAW i aelodau IAITH
Amser: 9:30 am - 16:00 pm

Nod

Nod yr hyfforddiant yma yw codi hyder hyfforddwyr i ddefnyddio’r ddwy iaith wrth hyfforddi a’u galluogi i greu awyrgylch hyfforddi ddiogel sy’n caniatáu i siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg gyfrannu yn eu dewis iaith.

Ar gyfer pwy?

  • Hyfforddwyr sy’n dymuno datblygu eu sgiliau hyfforddi’n ddwyieithog
  • Hwyluswyr grwpiau/sesiynau
  • Unigolion sydd yn cadeirio cyfarfodydd
  • Unigolion o’r sector gyhoeddus, preifat a gwirfoddol

Cynnwys

Bydd hyfforddeion yn:

  • Derbyn cyflwyniad i ymwybyddiaeth iaith sylfaenol
  • Trafod arwyddocâd hwyluso’n ddwyieithog a’r dulliau o fynd ati i ddarparu sesiynau dwyieithog
  • Derbyn gwybodaeth ar yr arfau sydd ar gael i gefnogi hyfforddwyr i weithio’n ddwyieithog.
  • Adnabod heriau a gofidiau
  • Edrych ar dechnegau a fydd yn caniatáu’r hyfforddwr i gynllunio sesiwn hyfforddi fywiog a chynhwysol.
  • Adnabod a rhannu enghreifftiau o arfer dda

Deilliannau Dysgu

Bydd y sawl sy’n dilyn y cwrs  yn caffael gwybodaeth a sgiliau i’w cefnogi i:

  • Ddarparu sesiynau dwyieithog sy’n addas ar gyfer grwpiau cymysg o ran iaith
  • Sefydlu awyrgylch ddiogel yn y sesiwn hyfforddi i unigolion gyfrannu yn eu dewis iaith
  • Ddefnyddio arfau sy’n eu cefnogi i hwyluso sesiynau dwyieithog 

Hyfforddwr

Siwan Tomos yw Cyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant IAITH. Daeth Siwan at IAITH ar ddiwedd 2011 gyda chefndir fel gweithiwr ieuenctid a chymuned. Siwan sy'n gyfrifol am brosiectau cynllunio iaith cymunedol y cwmni. Mae hefyd yn hyfforddwraig brofiadol ac wedi darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i lu o fudiadau a sefydliadau yng Nghymru yn cynnwys Y Cynulliad Cenedlaethol, Cyngor Sir Ceredigion, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, Opera Cenedlaethol Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Mae Siwan hefyd yn cyfrannu at waith ymchwil a datblygu maes cymunedol IAITH: y ganolfan cynllunio iaith. siwan.tomos@iaith.eu

Rhaglen