Iaith Busnes – Defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith


Dyddiad: 07 February - 07 February
Lleoliad: Pafiliwn Llangollen
Hyfforddwr: Siwan Tomos a Ffion Alun
Tâl: Am ddim
Amser: 17:15 pm - 18:30 pm

Mae prosiect Y Gymraeg mewn Busnes sy’n cael ei redeg gan IAITH: y ganolfan cynllunio iaith ac yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Dinbych yn bwriadu rhedeg cyfres o weithdai i gefnogi busnesau i weithio’n ddwyieithog. Bydd y gweithdai yn gweithio’n benodol i godi ymwybyddiaeth, sgiliau a hyder busnesau i ddefnyddio’r Gymraeg gyda chwsmeriaid er mwyn eu denu yn ôl dro ar ôl tro.

Mae’r sesiwn yma ar gyfer staff llinell flaen mewn busnesau.

Bydd y busnesau yn:

  • Derbyn cyflwyniad i ymwybyddiaeth iaith sylfaenol
  • Cymryd rhan mewn sesiwn ymarferol mewn awyrgylch ddiogel
  • Cael hyfforddiant sgiliau iaith er mwyn medru defnyddio ychydig o Gymraeg gyda chwsmeriaid
  • Cael hwb i’w hyder i ddefnyddio  dwyieithrwydd o ddydd i ddydd yn y gwaith
  • Sut i ddefnyddio dwyieithrwydd i wella gofal cwsmer
  • Derbyn Sgiliau ymarferol i gynyddu apêl y busnes i amrywiaeth o gwsmeriaid e.e. pobl leol, siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a thwristiaid

Os oes gennych chi neu aelod o’ch staff ddiddordeb mynychu rhai o’r sesiynau uchod mae croeso mawr i chi gysylltu ar siwan.tomos@iaith.eu neu 01745 222052. Rydym yn gofyn yn garedig i bawb gofrestru eu diddordeb cyn dod i un o’r gweithdai.

Bydd lluniaeth ysgafn a chroeso cynnes yn eich disgwyl.

Rhaglen