Normaleiddio a chryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn y sector Iechyd a Gofal


Dyddiad: 22 May - 22 May
Lleoliad: Rhithiol
Hyfforddwr: Bethan Williams
Tâl: £200 + TAW
Amser: 9:30 am - 11:30 am

Diwrnod 1 - 22ain o Fai, 9:30 - 12:30

Diwrnod 2 - 26ain o Fehefin, 9:30 - 12:30

Cwrs ar gyfer siaradwyr Cymraeg

Deilliannau dysgu

Bydd cyfle i drafod:

  • Pryd ydyn ni’n defnyddio Cymraeg a phryd a pham ydyn ni’n troi at y Saesneg
  • Beth sy’n gwneud hi’n anodd defnyddio’r Gymraeg a beth yw’r heriau 
  • Syniadau ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn gadarn
  • Creu cynllun i gynyddu defnydd personol o’r Gymraeg

Cynnwys y sesiynau -  Dwy sesiwn 2 awr o hyd

Sesiwn 1 : Cyflwyniad i Gadernid Iaith ac adnabod sefyllfaoedd anodd

  • Archwilio gwahanol broffiliau siaradwyr
  • Gwerthfawrogi strwythurau ieithyddol-cymdeithasol
  • Deall dewis a newid ieithyddol
  • Adnabod a myfyrio ar sefyllfaoedd anodd
  • Llunio cynllun gweithredu personol

Sesiwn 2 : Gweithredu a gwerthuso ein Cadernid Iaith

  • Gwerthuso’r cynllun gweithredu personol
  • Atgyfnerthu’r dealltwriaeth o Gadernid Iaith
  • Ail-fframio ffactorau negyddol ieithyddol-cymdeithasol
  • Ymarfer cadernid rhagweithiol, trafod negeseuon a dygymod â heriau
  • Mabwysiadu ymagwedd strategol i Gadernid Iaith

Gallwch gael mwy o wybodaeth am ein hyfforddiant drwy gysylltu gyda Bethan Williams ,  Rheolwr Addysg a Hyfforddiant IAITH.

Rhaglen