Mwy na Geiriau - Y Gymraeg a Gofal
Dyddiad: | 25 May - 25 May |
Lleoliad: | Maentwrog, Gwynedd |
Hyfforddwr: | Siwan Tomos |
Tâl: | £85 + TAW (£70 + TAW i aelodau IAITH) |
Amser: | 9:30 am - 12:30 pm |
Nod
Nod yr hyfforddiant yw trafod arwyddocâd fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol gan ystyried:
- Pam bod angen i chi ddatblygu’r gwasanaethau sydd ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth sy’n siarad Cymraeg
- Beth y mae angen i chi ei wybod am y fframwaith strategol olynol
- Sut y gallwch chi fynd ati i gynllunio gwasanaeth er mwyn gweithredu egwyddor y Cynnig Rhagweithiol a sut i ddatblygu patrwm o arfer dda.
Cynulleidfa Darged
Mae'r cwrs yma ar gyfer unigolion sy'n gweithio yn y maes gofal a iechyd ac sy'n dymuno deall mwy am sut i gefnogi anghenion pobl ddwyieithog.
Hyfforddwraig
Siwan Tomos yw Cyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant IAITH: y ganolfan cynllunio iaith. Ymunodd Siwan â'r tim ar ddiwedd 2011 gan ddod o gefndir gwaith ieuenctid. Hi sy'n arwain ar brosiectau cymunedol y cwmni. Mae hefyd yn hyfforddwraig brofiadol ac wedi darparu pob math o sesiynau hyfforddiant yn ymwneud ag ymwybyddiaeth iaith i lu o sefydliadau yng Nghymru. Mae'r sefydliadau yma yn cynnwys y Cynulliad, Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, Opera Cenedlaethol Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Mae hefyd yn cyfrannu i broseictau ymchwil IAITH
Am gwestiynau penodol yn ymwneud â'r hyfforddiant cysylltwch â siwan.tomos@iaith.eu