Recriwtio – Ystyried y Gymraeg


Dyddiad: 19 November - 19 November
Lleoliad: Y Llwyfan, Caerfyrddin
Hyfforddwr: Dr Steve Eaves
Tâl: £85 + TAW / £70 + TAW aelodau IAITH
Amser: 9:00 am - 13:00 pm

Cyflwyniad

Diwedd Medi 2015 gosododd Comisiynydd y Gymraeg Safonau Iaith Gymraeg ar 26 o sefydliadau yn nodi beth fydd disgwyl iddynt ei wneud a’i ddarparu yn Gymraeg yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. 

Mae maes Recriwtio a materion cysylltiedig yn faes allweddol bwysig i alluogi pob corff i ymateb yn effeithiol i her y Safonau.

Anelir yr hyfforddiant hwn at reolwyr a swyddogion ym maes adnoddau dynol / personél, a rheolwyr a staff eraill sy’n ymwneud ag agweddau ar y broses recriwtio a datblygu staff.

Nod yr hyfforddiant  

Ymgyfarwyddo â goblygiadau cyngor Comisiynydd y Gymraeg ar faterion recriwtio mewn pethynas â’r Gymraeg.

Cynnwys y sesiwn

Ystyried a thrafod y themâu allweddol yng nghynghorion Comisiynydd y Gymraeg ar faterion recriwtio

  • Cyfrifoldebau cyrff cyhoeddus
  • Cynllunio ar gyfer gweithlu dwyieithog
  • Polisïau ac arferion sefydlog adrannau adnoddau dynol
  • Llunio Strategaeth Sgiliau Iaith
  • Fframwaith Sgiliau Iaith

Cynhelir y sesiwn trwy gyfrwng y Saesneg. 

Fe’i cynhelir trwy ddarparu cyflwyniad PowerPoint , cyfleoedd i drafod ac ymarferion  grŵp.

Yr hyfforddwr   

Dr Steve Eaves yw Cyfarwyddwr Cynllunio Iaith Corfforaethol IAITH: y ganolfan cynllunio iaith. Bu’n gweithio ym maes polisi iaith a gwasanaethau iaith ers 35 mlynedd. Yn dilyn gyrfa ym maes cynllunio ieithyddol mewn llywodraeth leol mae Steve yn un o uwch ymgynghorwyr IAITH ers 14 blynedd. Mae’n arbenigo mewn cynghori a chynorthwyo cyrff cyhoeddus ar weithredu dwyieithrwydd. Mae hefyd yn hyfforddi ar amryw o faterion cysylltiedig, gan gynnwys ymwybyddiaeth iaith, recriwtio a strategaethau sgiliau iaith, a datblygiadau ym maes deddfwriaeth iaith a pholisi iaith.  steve.eaves@iaith.eu

Rhaglen