Sgiliau Cymraeg i Staff Derbynfeydd


Dyddiad: 22 February - 22 March
Lleoliad: Abergele
Hyfforddwr: Siwan Tomos
Tâl: £85 + TAW (£70 + TAW i aelodau IAITH)
Amser: 9:30 am - 12:30 pm

Nod

Nod y gwaith yw cynyddu hyder a sgiliau staff sy'n gweithio mewn derbynfeydd i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'r cyhoedd. 

Mae'r cwrs yn addas ar gyfer:

  • Unigolion nad ydynt yn siarad Cymraeg ond y mae'n ofynnol arnynt i ddarparu gwasanaeth dwyieithog
  • Unigolion sydd â rhywfaint o sgiliau Cymraeg ond nad ydynt wedi eu defnyddio yn y gwaith o'r blaen
  • Dysgwyr sy'n chwilio am gyfle i gynyddu eu sgiliau dwyieithog yn y gwaith
  • Staff mewn gweithleoedd yn y Sector Gyhoeddus, y Trydydd Sector ac yn y Sector Breifat

Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys:

  • Sesiwn ymarferol gyda thiwtor iaith
  • Cyflwyniad i ymwybyddiaeth iaith sylfaenol
  • Cyflwyniad i gwrteisi ieithyddol
  • Hyfforddiant sgiliau iaith yn seiliedig ar dasgau dydd i ddydd yr unigolyn
  • Ôl-gefnogaeth yn dilyn yr hyfforddiant i gefnogi newid arferion iaith yr unigolyn

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda Siwan Tomos ar siwan.tomos@iaith.eu neu 01745 222052 

Rhaglen