Y Gymraeg a’r Cynnig Rhagweithiol yn y Trydydd Sector  


Dyddiad: 24 February - 24 February
Lleoliad: Canolfan Optic, Llanelwy
Hyfforddwr: Siwan Tomos
Tâl: £85 + TAW / £70 + TAW aelodau IAITH
Amser: 9:00 am - 13:00 pm

Nod:

Nod y sesiwn yw trafod materion sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau dwyieithog yn y maes iechyd a gofal gan edrych ar:

? Pam bod angen datblygu gwasanaethau i ddefnyddwyr gwasanaeth sy’n siarad Cymraeg

? Beth sydd angen i chi wybod am y darlun ehangach o safbwynt y Gymraeg yn y Gymru gyfoes

? Sut y gallwch chi fynd ati i gynllunio gwasanaeth er mwyn gweithredu egwyddor y ‘Cynnig rhagweithiol’ 

Ar gyfer pwy:

Mae’r cwrs yma ar gyfer rheolwyr a gweithwyr maes/llinell flaen sydd yn gweithio i fudiadau trydydd sector sy’n darparu gwasanaethau iechyd a gofal

Cynnwys:

Bydd hyfforddeion yn:

  • Ystyried y berthynas rhwng y Gymraeg a materion yn ymwneud â chydraddoldeb a chyfleoedd cyfartal.
  • Derbyn gwybodaeth ynglŷn ag agweddau cyhoeddus ac yn cael y cyfle i ystyried eu hagweddau eu hunain tuag at y Gymraeg.
  • Ystyried y Gymraeg yn y cyd-destun Ewropeaidd
  • Ystyried manteision darpariaeth gwasanaethau dwyieithog i ddefnyddwyr
  • Edrych ar y cyd-destun polisi sydd yn cefnogi hyrwyddo gwasanaethau dwyieithog
  • Adnabod rhwystrau, heriau, gofidiau ac agweddau
  • Ystyried y ‘cynnig rhagweithiol’ a gweithredu’n ddwyieithog. 

Deilliannau Dysgu:

Bydd y sawl sy’n dilyn y cwrs  yn caffael gwybodaeth a dealltwriaeth am:

  • y berthynas rhwng y Gymraeg a materion yn ymwneud â chydraddoldeb a chyfleodd cyfartal ynghyd â’r darlun ieithyddol cyfredol yng Nghymru.
  • manteision darpariaeth ddwyieithog i’r defnyddwyr gwasanaeth a’r darparwr gwasanaeth
  • sut i fynd ati i weithredu’r ‘cynnig rhagweithiol’.

Hyfforddwr:

Siwan Tomos yw Rheolwr Prosiectau Cymunedol IAITH: y ganolfan cynllunio iaith. Daeth Siwan at IAITH ar ddiwedd 2011 gyda chefndir fel gweithiwr ieuenctid a chymuned. Siwan sy'n gyfrifol am brosiectau cynllunio iaith cymunedol y cwmni. Mae hefyd yn hyfforddwraig brofiadol ac wedi darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i lu o fudiadau a sefydliadau yng Nghymru yn cynnwys Y Cynulliad Cenedlaethol, Cyngor Sir Ceredigion, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, Opera Cenedlaethol Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Mae Siwan hefyd yn cyfrannu at waith ymchwil a datblygu maes cymunedol IAITH: y ganolfan cynllunio iaith.  

Rhaglen