Y Gymraeg ar y wê


Dyddiad: 16 February - 16 February
Lleoliad: Tŷ Tudur, Prestatyn
Hyfforddwr: Siwan Tomos a Ffion Alun
Tâl: Am ddim
Amser: 17:15 pm - 18:30 pm

Mae prosiect Y Gymraeg mewn Busnes sy’n cael ei redeg gan IAITH: y ganolfan cynllunio iaith ac yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Dinbych yn bwriadu rhedeg cyfres o weithdai i gefnogi busnesau i weithio’n ddwyieithog. Bydd y gweithdai yn gweithio’n benodol i godi ymwybyddiaeth, sgiliau a hyder busnesau i ddefnyddio’r Gymraeg gyda chwsmeriaid er mwyn eu denu yn ôl dro ar ôl tro.

Mae’r sesiwn yma ar gyfer unrhyw un sy’n defnyddio’r wê neu sy’n dymuno defnyddio’r wê i hyrwyddo eu busnes.

Bydd busnesau yn:

  • Cael y cyfle i ddysgu am adnoddau sydd ar gael i’w cefnogi i ddatblygu dwyieithrwydd yn eu presenoldeb ar-lein
  • Cael y cyfle i gael profiad ymarferol o ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol yn ddwyieithog
  • Dysgu am ymgyrchoedd ar-lein penodol sydd ar gael i hyrwyddo busnesau dwyieithog.
  • Datblygu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg ar-lein
  • Derbyn cyngor ar ddylunio dwyieithog
  • Derbyn adnodd ar-lein pwrpasol i gefnogi eu gwaith ar-lein. 

Os oes gennych chi neu aelod o’ch staff ddiddordeb mynychu rhai o’r sesiynau uchod mae croeso mawr i chi gysylltu ar siwan.tomos@iaith.eu neu 01745 222052. Rydym yn gofyn yn garedig i bawb gofrestru eu diddordeb cyn dod i un o’r gweithdai.

Bydd lluniaeth ysgafn a chroeso cynnes yn eich disgwyl.

Rhaglen