Ymgysylltu gyda chymunedau
Dyddiad: | 05 October - 05 October |
Lleoliad: | Ty Menai, Parc Menai |
Hyfforddwr: | Ffion Alun |
Tâl: | £85 + TAW / £70 + TAW aelodau IAITH |
Amser: | 9:00 am - 13:00 pm |
Nod yr hyfforddiant yw cyflwyno gwybodaeth a dulliau i gefnogi gweithwyr i ymgysylltu yn effeithiol gyda gwahanol grwpiau.
Mae’r cwrs yma yn addas ar gyfer staff mudiadau sydd yn dymuno clywed wrth gymunedau, derbyn barn a gwybodaeth wrth y cyhoedd ac sydd eisiau datblygu perthynas adeiladol gyda chymunedau anodd eu cyrraedd.
Bydd yr hyfforddiant yma yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg
Cynnwys:
Mae’r gweithdy hwn yn cwmpasu:
- Gwerth ymgysylltu gyda chymunedau (i gymunedau ac i fudiadau)
- Dulliau ymarferol i ymgysylltu a chyfle i’w defnyddio
- Astudiaeth achos
- Rhwystrau posib a datrys problemau
Hwylusydd:
Mae Ffion Alun wedi gweithio gydag IAITH dros y tair blynedd diwethaf fel Swyddog Datblygu Estyn Llaw. Mae’n hyfforddwraig fedrus ac mae ganddi gefndir yn y maes hyfforddi drwy ei gyrfa flaenorol gyda Grŵp Llandrillo Menai a Gyrfa Cymru.
Yn ei chyfnod gydag Estyn Llaw mae Ffion bod yn gweithio gyda nifer o grwpiau cymunedol ar draws Sir Conwy yn eu hannog i gymryd rhan mewn amryw o ymgynghoriadau.