Staff IAITH


Bwrdd Staff Iaith
Dr Kathryn Jones

Daeth Kathryn at y cwmni yn 1999. Cyn hynny bu'n gweithio ym Mharis, Tanzania a China ar faterion iaith-gysylltiol. Yn ieithegydd a chymdeithasegydd blaenllaw, bu Kathryn yn arwain ein huned polisi ac ymchwil tan 2016 pan gymerodd at awenau'r cwmni cyfan. Mae'n aelod o BAAL ac yn cyfrannu papurau yn gyson i gynadleddau iaith rhyngwladol. Mae Kathryn hefyd yn arwain ein partneriaethau academaidd ar draws y byd.

Siwan Tomos

Daeth Siwan at IAITH ar ddiwedd 2011 gyda chefndir fel gweithiwr ieuenctid a chymuned i reoli prosiectau cynllunio iaith cymunedol y cwmni. Gwnaeth hynny'n glodwiw am bedair blynedd. Mae Siwan yn hyfforddwr medrus ac ers 2015 hi yw Cyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant IAITH, gan ddatblygu ein gwasanaethau cynllunio ieithyddol yn y cyswllt hwnnw.

Dr Buddug Hughes

Daeth Buddug at IAITH yn 2018. Mae ganddi gefndir cadarn yn y byd addysg gan weithio i Goleg Llandrillo Menai a Phrifysgol Aberystwyth ar agweddau o bolisi iaith y sefydliadau hynny. Mae'n dod â'i chefndir ymchwil cadarn i dîm IAITH.

Kelly Davies

Mae Kelly yn rhan annatod o beiriant canolog y Ganolfan gan gymryd at ddyletswyddau gweinyddol amrywiol, gan gynnwys cadw'r Prif Weithredwr ar y trywydd cywir! Mae hefyd yn rhan allweddol o dîm ymchwil y Ganolfan. Chwaraeon sy'n denu Kelly yn ei horiau hamdden ac mae ei heffeithiolrwydd tawel yn gryfder mawr i ni gyd yn y Ganolfan.

Dr Steve Eaves

Ymunodd Steve gyda'r cwmni yn 2001 yn dilyn gyrfa mewn llywodraeth leol fel Pen Gyfieithydd a Swyddog Iaith gyda chynghorau Arfon a Chonwy. Bu'n o sylfaenwyr Rhwydiaith, yn Is-Gadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac mae'n un o'r arbenigwyr pennaf ar faterion iaith corfforaethol. Dyfarnwyd gradd doethur er anrhydedd i Steve yn 2014 gan y Brifysgol Agored ac enillodd ddoethuriaeth gan Brifysgol Caerdydd yn 2015. Gweithredodd Steve fel Cyfarwyddwr Cynllunio Iaith Corfforaethol IAITH tan ei ymddeoliad yn 2016. Ers hynny mae Steve yn parhau i weithredu fel Ymgynghorydd Cysylltiol i IAITH.

Gareth Ioan

Cymerodd Gareth at awenau'r cwmni yn 1997. Dan ei arweiniad mae'r cwmni wedi cynnal a datblygu ei statws fel arloeswyr amlycaf y maes polisi a chynllunio iaith yng Nghymru. Cynllunio iaith cymunedol yw ei ddiddordeb pennaf ond mae hefyd yn meddu ar brofiad helaeth o gynllunio iaith corfforaethol, cyumdeithasoli iaith a hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith. Mae wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau i Lywodraeth a chyrff canolog dros y blynyddoedd ac ef yw awdur adroddiad Y Gynhadledd Fawr (2013).

Meirion Prys Jones

Mae Meirion yn un o gynllunwyr iaith amlycaf Cymru. Bu'n Gyfarwyddwr Addysg a Phrif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg tan 2012. Ers hynny bu'n gyfrifol am gynnal y rhwydwaith Ewropeaidd NPLD tan 2017. Mae'n gweithredu bellach fel ymgynghorydd annibynol dan yr enw LinguaNi ac yn cydweithio'n gyson gyda thîm IAITH.

Yr Athro Colin Williams

Mae Colin yn un o gynllunwyr iaith amlycaf Cymru. Mae bellach wedi ymddeol o yrfa academaidd lwyddiannus mewn nifer o sefydliadau addysg uwch. Yn y blynyddoedd diweddar bu'n arwain gwaith polisi a chynllunio iaith Prifysgol Caerdydd. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth ac yn uchel ei barch ar lefel rhyngwladol. Mae'n fraint i'w gael yn rhan o dîm IAITH.