Brecsit, ein Tir a’r Gymraeg

Canolfan Gynadleddau Medrus, Prifysgol Aberystwyth
10:30 am - 13:00 pm, 11 Hydref 2018


Ymddengys y gallai cynigion cyfredol Llywodraeth Cymru ynghylch dyfodol cymorthdaliadau amaethyddol yng Nghymru gynnig cryn risg i hyfywedd y Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

Mae’r seminar hon yn gyfle i gynllunwyr iaith a chynrychiolwyr mudiadau’r Gymraeg ddysgu mwy am y cynigion cyfredol, ynghyd â’u goblygiadau i gymdogaethau Cymraeg gwledig. Bydd yn gyfle hefyd i sefydliadau unigol a Chynllunwyr Iaith Cymru ddatblygu ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus sy’n cau ar 30 Hydref 2018.

Cadeirydd:     Meirion Prys Jones

Cyfranwyr:     Euryn Jones, Cyfarwyddwr Amaethyddol Rhanbarthol HSBC

                        Gareth Ioan, Cadeirydd IAITH Cyf.

                        Euros Lewis, Ymgynghorydd ac Ymarferydd Diwylliannol

I gael mwy o wybodaeth gefndirol am y pwnc hwn gallwch gyrchu papur safbwynt gan Gareth Ioan, ‘Brexit a’n Tir a’r Gymraeg’ yma.

Diben y papur safbwynt yw cyflwyno crynodeb a dadansoddiad byr o’r argymhellion a geir yn y ddogfen ymgynghorol, gan gynnig rhai sylwadau yng nghyswllt dyfodol y Gymraeg yn sgil y newidiadau arfaethedig. Mae’r papur hefyd yn galw ar weithredwyr polisi a chynllunio iaith yng Nghymru, ynghyd â’r mudiad iaith yn gyffredinol, i gyfrannu’n rhagweithiol i’r drafodaeth a’r ymgynghoriad er mwyn sicrhau ymagwedd gyfannol at gynllunio amaethyddol ac ieithyddol. Mae’r papur hwn hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad effaith ieithyddol lawn o oblygiadau’r argymhellion arfaethedig. Ceir hefyd rhai awgrymiadau ymarferol ar sut y gellid defnyddio’r cynlluniau newydd i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg o fewn ein cymdogaethau gwledig.

Rhowch wybod i ni am eich bwriad i fod yn bresennol, os gwelwch yn dda, drwy anfon neges at post@iaith.eu neu drwy ffonio ar 01239 711668.