Cadernid Iaith i Rieni
Rhithiol
9:30 am - 11:30 am, 11 Mehefin 2025
Wyt ti eisiau defnyddio mwy o dy Gymraeg gyda’r plant?
Ymuna gyda’r hyfforddiant rhithiol yma i ddysgu am ein arferion ieithyddol. Bydd y gefnogaeth yn adeiladu dy hyder i siarad rhagor o Gymraeg yn y cartref.
15.10.2024 – 9:30 – 11:30 &
26.11.2024 – 9:30 – 11:30
Bydd cyfle i drafod:
- Pryd ydyn ni’n defnyddio Cymraeg a phryd a pham ydyn ni’n troi at y Saesneg
- Beth sy’n gwneud hi’n anodd defnyddio’r Gymraeg gyda’n plant a beth yw’r heriau
- Syniadau ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn gadarn
- Creu cynllun i gynyddu defnydd personol o’r Gymraeg
Cynnwys y sesiynau - Dwy sesiwn 2 awr o hyd
Sesiwn 1 : Cyflwyniad i Gadernid Iaith ac adnabod sefyllfaoedd anodd
- Gwahanol fathau o siaradwyr
- Iaith o’n cwmpas
- Deall dewis a newid ieithyddol
- Adnabod a myfyrio ar sefyllfaoedd anodd
- Creu targedau personol
Sesiwn 2 : Ymarfer ein Cadernid Iaith
- Gwerthuso’r targedau personol
- Deall mwy am Gadernid Iaith
- Ail-fframio ffactorau negyddol
- Ymateb i’r heriau
- Cynllunio i fod yn Gadarn gyda’r Gymraeg
£200+TAW
Gallwch gael mwy o wybodaeth am ein hyfforddiant drwy gysylltu gyda Bethan Williams , Rheolwr Addysg a Hyfforddiant IAITH.
